Cynllun mentora ieithoedd modern yn targedu mwy o ysgolion
Mae myfyrwyr sy'n dilyn gradd mewn ieithoedd modern yn mynd i mewn i ysgolion fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru.
07 Hydref 2016
Mae cynllun i fynd i’r afael â’r ‘dirywiad difrifol’ yn nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd tramor modern yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol nifer yr ysgolion prosiect y bydd yn gweithio gyda nhw yn ei ail flwyddyn, o 28 i 44.
Cynllun peilot oedd hwn i ddechrau, ond mae'r ymyriad pwysig am geisio cynyddu nifer y disgyblion ysgol uwchradd ledled y wlad sy'n dewis ac yn llwyddo i astudio ieithoedd modern. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i strategaeth Dyfodol Byd-eang pum mlynedd, sy'n cefnogi ieithoedd modern mewn ysgolion yng Nghymru.
Dan y cynllun, mae israddedigion ieithoedd tramor modern (ITM) ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth yn cael eu recriwtio a’u hyfforddi fel mentoriaid-fyfyrwyr ac yn cael eu paru â disgyblion mewn ysgolion lleol.
Bydd pob myfyriwr israddedig yn mynd drwy broses asesu drwyadl, yn ogystal â chael hyfforddiant gan arbenigwyr ym maes mentora myfyrwyr. Byddant yn cael eu paru ag ysgolion ymrwymedig yn yr ardaloedd o amgylch eu prifysgolion, mewn cydweithrediad agos â chonsortia addysgol rhanbarthol.
Sesiynau Mentora Wythnosol
Bydd pob ysgol bartner yn cael myfyrwyr i fentora disgyblion a dosbarthiadau Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 8 a 9). Bydd y myfyrwyr-fentoriaid hyn yn cynnal sesiynau mentora wythnosol â’u disgyblion mewn grwpiau bach dros y tymor academaidd nesaf.
Mae'r cynllun newydd yn adeiladu ar waith presennol a wneir rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Llwybrau at Ieithoedd Cymru, lle mae prifysgolion yn cymryd rhan mewn rhaglenni allgymorth gyda disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gyda 32 o fyfyrwyr prifysgol yn mentora 254 o ddisgyblion, cafodd y prosiect effaith glir nid yn unig ar y disgyblion a gafodd eu mentora ond ar grwpiau cyfan yn ysgolion y prosiect. Adroddodd dros hanner yr ysgolion niferoedd uwch yn eu dosbarthiadau TGAU, gan gynnwys un ysgol lle caiff dosbarth TGAU mewn ieithoedd tramor ei gynnal am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Yn ogystal â chreu cysylltiadau cynaliadwy rhwng adrannau ITM Addysg Uwch ac ysgolion uwchradd, bydd y cynllun yn cynnig profiadau a chyfleoedd cyflogadwyedd i israddedigion ITM.
Meddai’r Athro Claire Gorrara, Academydd Arweiniol y prosiect: "Er bod Cymru'n genedl ddwyieithog, mae nifer y disgyblion ysgol sy'n dewis astudio o leiaf un iaith fodern ar lefel TGAU wedi gostwng gan 44% rhwng 2002 a 2015. Rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos bod gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yn llesteirio cyfleoedd addysgol, hyfforddiant a gyrfaol i bobl ifanc o Gymru.
“Yn sgîl y bleidlais yn y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae hyrwyddo ieithoedd modern yn arbennig o bwysig. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i bobl ifanc feithrin sgiliau ieithyddol a rhyngddiwylliannol a fydd yn eu helpu i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol, ac i gystadlu ar lwyfan byd-eang.”