Canolfan Wybodaeth newydd ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth

05 Hydref 2016

Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi lansio Canolfan Wybodaeth newydd i wneud gwaith ymchwil ym maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Bydd y Ganolfan Wybodaeth yn canolbwyntio ar ymchwil mewn dau faes sy’n wahanol iawn i’w gilydd ond sydd eto’n cydberthyn ar sawl lefel. Ar y naill law bydd Cynhyrchu Gwybodaeth, Arbenigedd a Thystiolaeth mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol; ar y llall bydd Hanes, Athroniaeth a Chymdeithaseg Gwybodaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Dr Berit Bliesemann de Guevara yw Cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Wybodaeth Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac mae'n credu bod gan y ganolfan newydd rôl bwysig i'w chwarae.

"Er mwyn deall y byd gwleidyddol lle rydyn ni’n byw, mae’n hanfodol ein bod yn dadansoddi’r hyn sy’n cael ei weld fel problem polisi ym maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn y lle cyntaf a pham fod problemau ac atebion yn cael eu dehongli mewn ffyrdd penodol.

"Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, `rydyn ni bob amser yn ceisio sicrhau bod gan bobl ddealltwriaeth ehangach o’r materion sy’n effeithio arnom yn ddyddiol. Ond er mwyn gwneud hynny mae angen i ni ddeall hefyd sut mae gwneuthurwyr polisi cenedlaethol a mudiadau rhyngwladol yn defnyddio arbenigedd a gwybodaeth wyddonol, a sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth wleidyddol o’r byd.

“Bydd y Ganolfan newydd yma yn gwneud gwaith ymchwil i ddeall beth sy’n digwydd pan fo’r byd academaidd a’r byd gwleidyddol yn cyd-gyfeirio, pan fo gwybodaeth yn cael ei chyfnewid, a bydd yn rhoi cliwiau am y posibliadau a’r cyfyngiadau sydd yna o ran bwydo i mewn i ddatblygiad polisi yn y dyfodol.”

Cafodd y Ganolfan ei lansio Ddydd Mercher 5 Hydref 2016 yn adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwaldol Prifysgol Aberystwyth. Hon oedd yr Adran gyntaf o’i bath yn y byd a bydd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2019. Mae'r garfan o fyfyrwyr sydd newydd ddechrau ar eu hastudiaethau yn graddio yn ystod blwyddyn dathlu’r canmlwyddiant.