Arddangosfa gelf yn dathlu proses brintio arloesol gan diwtor o Aber

Andrew Baldwin

Andrew Baldwin

05 Hydref 2016

Bydd proses brintio arloesol a ddyfeisiwyd gan aelod o staff yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth ac sydd bellach yn cael ei defnyddio ledled y byd yn destun arddangosfa arbennig yr hydref hwn.  

Dechreuodd Andrew Baldwin, sy’n uwch dechnegydd a thiwtor yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, wneud ysgythriadau yng nghanol y 1980au. Wedi’i gyfareddu gan y broses,  fe weithiodd yn eang yn y cyfrwng.

Ond dros amser sylwodd bod y broses yn cael effaith andwyol ar ei iechyd – problem gyffredin i wneuthurwyr printiau sy’n defnyddio deunyddiau ysgythru traddodiadol, gwenwynig.

Mewn ymgais i ddatrys y broblem, aeth ati i arbrofi â deunyddiau eraill, llai niweidiol, ac ymhen amser fe lwyddodd i greu ei rwnd ysgythru diwenwyn ei hun, sef BIG (Baldwin’s Ink Ground).

“Yn wahanol i’r prosesau printio diwydiannol mwy cyfarwydd, defnyddir dulliau traddodiadol i gynhyrchu printiau celfyddyd gain, a dyna hanfod y broblem,” eglurodd Andrew Baldwin.

“Dros y blynyddoedd mae deunyddiau eraill diogelach wedi profi’n llai poblogaidd na’r deunyddiau traddodiadol, o ganlyniad i nifer o ffactorau pwysig, gan gynnwys ansawdd yr ysgythriad. 

“Pryderon ynghylch fy iechyd fy hun, iechyd fy myfyrwyr a phryderon ehangach ynghylch iechyd yr amgylchedd fu’r sbardun a’m symbylodd i geisio canfod adnoddau a dulliau diogelach a llai niweidiol. Freuddwydiais i byth y byddai datblygu’r deunyddiau diogelach hyn yn arwain at gyfleoedd i deithio’r byd a chwrdd ag artistiaid o’r un anian â mi, sy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â gwneud printiau a materion amgylcheddol.”

Fformiwla Chwyldroadol

Pymtheg mlynedd yn ôl cyflwynodd Andrew ei fformiwla chwyldroadol i’w fyfyrwyr yn Ysgol Gelf y Brifysgol, ac ers hynny mae wedi teithio’r byd yn hyrwyddo ac arddangos y cynnyrch i fyfyrwyr celf yn ogystal â gwneuthurwyr printiau proffesiynol.

Bu ei gynnyrch mor boblogaidd, mae’n cael ei ddefnyddio bellach gan wneuthurwyr printiau mor bell i ffwrdd â De Korea, Columbia, Awstralia ac UDA, ac yn cael ei werthu gan y prif gyflenwyr yn y maes yn y DU ac UDA.

Mae Andrew Baldwin hefyd wedi cael gyrfa lwyddiannus gyda’i brintiau ei hun, gan gyfrannu at arddangosfeydd nodedig yn Mall Galleries, Llundain; Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ac Arizona. Yn 2006, fe enillodd Wobr Artist Mwyaf Eithriadol Ffederasiwn Artistiaid Prydain, ac yn 2007 enillodd Wobr Artist Cymreig y Flwyddyn ym maes Gwneud Printiau.

Cynhelir yr arddangosfa 'Torri Tir Newydd' rhwng 10 Hydref a 18 Tachwedd 2016 yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Bydd yn gyfle i weld yr amryw ffyrdd y mae Andrew Baldwin ac ysgythrwyr/gwneuthurwyr printiau eraill ledled y byd wedi defnyddio grwnd ‘BIG’ (Baldwin’s Ink Ground). Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.