Podlediad Panel Brexit

Y panel yn trafod

Y panel yn trafod

05 Hydref 2016

Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi cynhyrchu podlediad yn sgil trefnu dadl gyhoeddus ar oblygiadau Brexit.

Daeth dros 200 o bobl ynghyd yn yr Hen Goleg nos Iau 29 Medi 2016 i wrando ar y drafodaeth ford gron.

Roedd y panel yn cynnwys yr Athro Richard Youngs, arbenigwr polisi tramor yr Undeb Ewropeaidd, Carnegie Ewrop ac Athro Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Warwick; Dr Angharad Closs Stephens, Gwleidyddol ac arbenigol Daearyddiaethau Diwylliannol, Prifysgol Abertawe; a'r Athro Andrew Linklater, Dr Alistair Shepherd, Dr Jenny Mathers a'r Athro Richard Beardsworth o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Cadeiriwyd y drafodaeth gan yr Athro Milja Kurki, Cyfarwyddwr Ymchwil a Dirprwy Bennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Podlediad Panel Brexit

  ‌

Dywedodd yr Athro Richard Beardsworth, Pennaeth Adran Aberystwyth Gwleidyddiaeth Ryngwladol: "Roedd Hen Neuadd yr Hen Goleg yn orlawn ar gyfer y digwyddiad ac mae hynny’n dangos bod awydd gwirioneddol yn ardal Aberystwyth am gyfleoedd i drafod pynciau gwleidyddol cyfredol. Fel Adran, mae gennym rôl i'w chwarae o ran meithrin cyfnewid syniadau a chyfrannu’n llais at y drafodaeth gyhoeddus. Dyma oedd y cyntaf mewn cyfres o drafodaethau Brexit ar thema trafod cymunedau gwleidyddol a byddwn yn cyhoeddi manylion am ein digwyddiad nesaf yn fuan."

Mewn datblygiad arall, mae Canghellor Prifysgol Aberystwyth Syr Emyr Jones Parry wedi cael gwahoddiad i fod yn aelod o'r Grŵp Cynghori sydd wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i gynghori ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n deillio o ymadawiad y DU o'r UE.

"Mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn codi'r heriau mwyaf astrus sydd wedi wynebu'r Deyrnas Unedig ers cenedlaethau," meddai Syr Emyr sy'n gyn Bennaeth ar Adran Cymuned Ewropeaidd y Swyddfa Dramor.

"Bydd canfod ateb yn golygu trafodaethau hir a chymeradwyaeth dilynol. Prin iawn yw'r meysydd polisi na fydd yn teimlo'r effeithiau. Bydd yn effeithio'n arbennig ar addysg uwch, o ran incwm a rhyddid i symud. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu grŵp cynghori i'w groesawu a bydd yn sicrhau bod arbenigedd perthnasol yn bwydo i mewn i'r broses benderfynu."

Mae dau o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth, y Dr Hywel Ceri Jones a'r ASE Jill Evans, hefyd yn aelodau o'r Grŵp Cynghori ar Ewrop a fu'n cwrdd am y tro cyntaf ym mis Medi 2016.