Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon

"Scratchylus a Empress Reggae" a fydd yn perfformio yn y Brifysgol ar 15 Hydref

30 Medi 2016

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws campws ym mis Hydref.

Bydd y dathliadau yn cynnwys perfformiad gan fand reggae "Scratchylus a Empress Reggae" sy’n mynd ar daith ar draws Prifysgolion y DU i nodi Mis Hanes Pobl Dduon. Bydd y perfformiad hefyd yn cyd-fynd â Diwrnod Agored y Brifysgol ar ddydd Sadwrn 15 o Hydref.

Ar ddydd Gwener 28 Hydref, bydd trafodaeth bwrdd crwn yn trafod materion hil mewn addysg uwch yn cael ei chynnal ym mhrif neuadd adeilad yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Bydd rhestr lawn o’r panelwyr yn cael ei chyhoeddi yn nes at y dyddiad.

Bydd gwybodaeth ar ystod o bynciau eraill hefyd yn cael ei dangos ar bob campws yn ystod mis Hydref.

Mae mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol a ddechreuodd yn America i fyfyrio ar hanes a diwylliant pobl ddu a'u heffaith ar wledydd ledled y byd. Ers 1987, mae'n cael ei ddathlu ym mis Hydref yn y DU ac eleni bydd dros 6000 o ddigwyddiadau ar draws  Prydain. Mae’n cael ei gynnal ym mis Chwefror yn yr Unol Daleithiau ac roedd eleni yn nodi 90 mlynedd ers ei sefydlu.