Ysgrifennydd Addysg yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth

Yr Ysgrifennydd Addysg yn ymweld â Chlwb Roboteg Aberystwyth

Yr Ysgrifennydd Addysg yn ymweld â Chlwb Roboteg Aberystwyth

29 Medi 2016

Mae Ysgrifennydd Addysg Cabinet Llywodraeth Cymru wedi bod yn cwrdd â staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y cyntaf mewn cyfres o ymweliadau â sefydliadau addysg uwch Cymru.

Cafodd Kirsty Williams AC ei hebrwng o gwmpas y campws gan yr Is-Ganghellor Dros Dro yr Athro John Grattan Ddydd Iau 29 Medi 2016.

Dywedodd ei bod yn gallu gweld pam fod Prifysgol Aberystwyth wedi perfformio’n dda mewn arolwg bodlonrwydd myfyrwyr yn ddiweddar.

“Rwyf wedi treulio tipyn o amser yn ystod fy pum mis cyntaf yn y swydd yn clywed am y materion gwahanol sy’n wynebu’r sector addysg yng Nghymru. Felly roeddwn i wrth fy modd yn cael mynd yno heddiw a dysgu mwy am fywyd ar y campws yn ogystal a chael profiad o wythnos y Glas,” dywedodd Ms Williams.

“Aberystwyth oedd y gorau yng Nghymru o ran profiad myfyrwyr yn y Good University Guide ac mae’r rhesymau yn amlwg, yn enwedig ar yr adeg gyffrous yma o’r flwyddyn.”

Yn ystod ei hymweliad, bu’r Gweinidog yn siarad gyda myfyrwyr oedd wedi penderfynu astudio am radd ar ôl mynychu cwrs Prifysgol Haf Aberystwyth sy’n anelu at gynyddu cyfranogiad yn y sector addysg uwch. Bu’n cwrdd hefyd a myfyrwyr rhyngwladol gan gynnwys rhai o’r Undeb Ewropeaidd.

“Roeddwn yn arbennig o bles i ddysgu mwy am y gwaith mae’r Brifysgol wedi bod yn ei wneud o ran ehangu cyfranogiad, gan roi cyfle i bobl ifanc dreulio chwe wythnos ar y campws a chael profiad o astudio mewn amgylchedd addysg uwch," meddai.

“Fis nesaf fe fyddwn ni’n lansio’r degfed canolfan Seren yng Nghymru yma yn Aberystwyth. Bydd disgyblion Blwyddyn 12 yr ardal yn dod at ei gilydd, yn dysgu gyda’i gilydd ac yn cael cefnogaeth gan arweinwyr oddi mewn i’r Brifysgol i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i gyrraedd eu potensial academaidd."

Un o uchelbwyntiau’r ymweliad oedd cyflwyniad i’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yn yr Adran Ffiseg ar ran taith crwydryn ExoMars yr Asiantaeth Gofod Ewropeaidd yn 2020.

Mae gwyddonwyr gofod yn Aberystwyth wedi bod yn datblygu drych ‘hunlun’ (selfie) fydd yn caniatáu i’r cerbyd ExoMars i dynnu lluniau o’i hun os yw’n cael ei ddifrodi, yn ogystal â thargedau calibradu camera i sicrhau bod y lluniau sy’n cael eu hanfon nôl i’r Ddaear yn adlewyrchiad cywir o liwiau naturiol y blaned Mawrth.

Roedd arddangosfa hefyd o robotiaid yn cael eu rheoli o bell gan Glwb Roboteg Aberystwyth, clwb ar ôl ysgol i blant yn eu harddegau sy’n cael ei arwain gan staff a myfyrwyr.

Bu Kirsty Williams yn cwrdd â myfyrwyr y Gymdeithas Ddaearyddiaeth a staff o’r Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear, gan gynnwys yr Athro Neil Glass a fydd yn rhan o dîm rhyngwladol sy’n teithio i Antarctica ym mis Ionawr 2017 a’r Athro Bryn Hubbard a anrhydeddwyd gyda Medal y Pegynau yn gynharach eleni.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth yr Athro John Grattan: “Rydyn ni’n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Addysg wedi gallu ymweld â Phrifysgol Aberystwyth a gweld drosti’i hun pam fod hwn yn lle eithriadol o ran dysgu a byw. Yn sgil canlyniad refferendwm yr UE ac argymhellion adroddiad Diamond, roedd yn gyfle i drafod rhai o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector addysg uwch ar hyn o bryd.

“Roedd hefyd yn gyfle i dynnu sylw at safon y gwaith ymchwil a datblygu arbennig sy’n cael ei wneud gan academyddion yma yn Aberystwyth, gan gynnwys ein partneriaeth gyda thaith ExoMars yr Asiantaeth Gofod Ewropeaidd a’n taith fel rhan o dîm rhyngwladol i’r Antarctig ym mis Ionawr 2017.

“Fel sefydliad, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ehangu cyfleoedd i gael addysg uwch  drwy ein cwrs Prifysgol Haf ac fe fu rhai o’r myfyrwyr a benderfynodd ddod i Brifysgol Aberystwyth oherwydd y profiad hwnnw yn siarad gyda’r Ysgrifennydd Addysg am eu rhesymau dros ddewis astudio am radd.”   

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ac Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams, gyda Kirsty Williams ar ei hymweliad cyntaf â Phrifysgol Aberystwyth fel Ysgfrifennydd Addysg.