Prifysgol Aberystwyth yn rhoi darlithoedd gwyddoniaeth i blant ysgol
Yr Athro Neil Glasser yn cynnal darlith
21 Medi 2016
Ym mis Medi 2016, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfres newydd o ddarlithoedd i ysgolion lleol gyda'r nod o ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol.
Cymdeithas Gwyddonwyr Ifanc Gorllewin Cymru sy’n gyfrifol am drefnu’r darlithoedd, fel y gwnaethant yn flynyddol dros y 39 mlynedd diwethaf.
Yr Athro Neil Glasser o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth fydd yn cychwyn y gyfres, ddydd Mercher 21 Medi, gyda darlith ar 'Newid yn yr hinsawdd, llenni iâ, rhewlifoedd a lefelau'r môr'.
Anelir y darlithoedd at ddisgyblion ysgolion uwchradd o Orllewin a Chanolbarth Cymru ac mae cyfanswm o un ar bymtheg ysgol yn cymryd rhan.
Dywedodd yr Athro Neil Glasser: "Nod y gyfres hon o ddarlithoedd yw rhannu'r wybodaeth a'r arbenigedd ymchwil sydd gennym yma ym Mhrifysgol Aberystwyth â'r gymuned ehangach. Gobeithiwn hefyd y bydd yr hyn y bydd y plant ysgol ifanc yn ei glywed yn gymorth i daflu goleuni ar gysyniadau gwyddonol penodol yn ogystal â’u hysbrydoli i barhau i astudio gwyddoniaeth yn y dyfodol. "
Cyflwynir yr ail ddarlith - 'Gweld lliw drwy lygaid anifeiliaid' - ddydd Mercher, 19 Hydref gan Dr Roger Santer, darlithydd mewn Swoleg yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
Bydd y drydedd sgwrs, sef yr olaf, yn cael ei chyflwyno ddydd Mercher 14 Rhagfyr gan yr Athro Iwan Morus, a fydd yn traddodi Darlith Goffa Bill Williams. Teitl ei ddarlith yw Hanes Cemegol Michael Faraday o Candle'.
Sefydlwyd Cymdeithas Gwyddonwyr Ifanc Gorllewin Cymru gan Mr A J S Williams, MBE, BSc, Cchem, FRSC a Syr Granville Beynon ym 1977. Mae nawdd am y ddarlithoedd hyn yn cael ei ddarparu gan y Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.