Aberystwyth ar frig tabl y prifysgolion diogel
Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth
19 Medi 2016
Prifysgol Aberystwyth yw’r lle mwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru ac mae ymhlith y deg mwyaf diogel yn y DU, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan The Complete University Guide 2016 heddiw Ddydd Llun 19 Medi.
Mae’r arolwg yn defnyddio data swyddogol yr heddlu i greu darlun o gyfraddau troseddau sy’n fwyaf tebygol o effeithio ar fyfyrwyr mewn bron i 130 o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Lloegr.
Wrth ddisgrifio Prifysgol Aberystwyth, dywed The Complete University Guide mai dyma'r cyntaf a'r unig sefydliad o Gymru yn y Deg Prifysgol Uchaf yng Nghymru a Lloegr o ran Lefelau Trosedd Isel 2016.
"Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei lleoli mewn tref farchnad hanesyddol ar arfordir Cymru a gyda 21.01 o ddigwyddiadau'n unig yn cael eu hadrodd y flwyddyn fesul 1,000 o drigolion, mae'n amlwg bod cymunedau'r myfyrwyr mewn ardaloedd diogel," yn ôl y cyhoeddiad.
Wrth lunio’r adroddiad, dywed The Complete University Guide ei fod hefyd wedi gofyn am gyngor proffesiynol ar y troseddau sy’n fwyaf perthnasol i fyfyrwyr. Mae’n defnyddio tair trosedd - byrgleriaeth, lladrad a thrais, a throseddau rhywiol.
Caiff prifysgolion eu barnu ar gyfanswm cyfraddau’r tair trosedd yma dros gyfnod o 12 mis yn yr ardaloedd hynny lle mae myfyrwyr yn byw yn ystod y tymor. Er mai dyma’r troseddau sy’n fwyaf perthnasol i fyfyrwyr, mae’r ffigurau’n seiliedig ar holl ddioddefwyr yr ardal, nid myfyrwyr yn unig.
Dywedodd yr Athro John Grattan, Is-ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth: “Rydw i wrth fy modd bod Prifysgol Aberystwyth wedi cadw ei safle fel y brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru a'n bod ymhlith y deg lle mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig.”
“Mae adborth ein myfyrwyr yn dangos bod ein cymuned glos a diogel yn factor bwysig yn eu penderfyniad i astudio yma. Mae hefyd yn brawf pellach fod Aberystwyth wirioneddol yn lle eithriadol o ran dysgu a byw.”
Mewnarolwg a gyhoeddwyd yn yr UK Business Insider yn gynharach ym mis Medi 2016, cafodd Aberystwyth ei enwi fel y dref fwyaf diogel yn y DU.