Pennaeth y Brifysgol yn cwblhau treiathlon Ironman Cymru

19 Medi 2016

Mae Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth wedi codi bron i £7,000 tuag at galedi myfyrwyr ar ol cwblhau un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf llym y byd.

Fe lwyddodd yr Athro John Grattan i orffen treiathlon Ironman Cymru yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro, mewn ychydig llai nag 17 awr.

Yn ystod yr amser hwnnw, bu’n rhaid i’r academydd 56 oed nofio 2.4 milltri yn y mor, seiclo 112 milltir a rhedeg marathon llawn 26.2 milltir.

Wrth iddo groesi’r llinell derfyn yn hwyr nos Sul 18 Medi 2016, daeth bonllefau o gymeradwyaeth gan y dorf – yn eu plith, criw o gefnogwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Yn ei grys melyn Prifysgol Aberystwyth, roedd yr Athro Grattan yn un o ddwy fil o athletwyr oedd wedi penderfynu rhoi cynnig ar her Ironman Cymru eleni.

Dechreuodd hyfforddi o ddifri ar gyfer y digwyddiad naw mis yn ol, gyda chyngor a chefnogaeth gan staff yng Nghanolfan Chwaraeon ac Adran Gwyddor Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth.

Wrth siarad ar ddiwedd y treiathlon, dywedodd yr Athro Grattan: “Yn ddi-os, dyma’r her gorfforol fwyaf i fi wynebu hyd yma a dwi wrth fy modd fy mod wedi gallu cwblhau’r cwrs o fewn yr amser penodedig.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy noddi ac sydd wedi fy nghefnogi wrth i mi fynd i’r afael a her Ironman Cymru. Rwyn hynod falch fod yr arian a godwyd o ganlyniad yn mynd tuag at Gronfa Aber ac yn benodol tuag at brosiectau i leddfu caledig myfyrwyr a phrosiectau lles myfyrwyr.”

Mae modd cyfrannu at y gronfa trwy fynd at dudalen yr Athro Grattan arlein: https://www.everydayhero.co.uk/event/ironmanVC