Tabl Cynghrair Prifysgolion Gorau'r Byd
Bathodyn sy'n dangos bod Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 500 prifysgol orau yn y byd
16 Medi 2016
Mae Prifysgol Aberystwyth yn safle 51 yn y DU ac ymhlith y 500 prifysgol orau yn y byd yn ôl tabl diweddaraf y QS World University Rankings a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016.
Mae tabl cynghrair 2016-17 y QS yn edrych ar gyfanswm o 916 o sefydliadau addysg uwch mewn 81 o wledydd gwahanol.
Mae'n rhestru prifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd yn ôl chwe dangosydd perfformiad: enw da academaidd; enw da cyflogwr; nifer y staff academaidd o’u cymharu â myfyrwyr; dyfyniadau fesul cyfadran; a chanran y staff a’r myfyrwyr rhyngwladol.
Dengys y ffigurau diweddaraf ar ran Prifysgol Aberystwyth gynnydd sylweddol yn y categori Dyfyniadau fesul Cyfadran, sef y nifer o weithiau y mae ymchwil gan academyddion Aberystwyth yn cael ei gyfeirio ato mewn cyhoeddiadau eraill.
Yn gyffredinol, po fwyaf aml y caiff darn o waith ymchwil ei ddyfynnu, y mwyaf yw’r dylanwad. Felly os yw nifer y papurau ymchwil mae sefydliad yn ei gyhoeddi yn uchel, yna mae ei allbwn ymchwil yn cael ei ystyried yn gryfach.
Wrth groesawu’r canlyniadau, dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: “Mae gwelliant pellach y Brifysgol yn y tabl cynghrair rhyngwladol yma yn dyst i waith caled ein staff a’n myfyrwyr, ac mae’n adlewyrchu’n hymroddiad i lwyddiant myfyrwyr a rhagoriaeth ymchwil.”
Yn gynharach eleni, dyfarnodd y QS World University Rankings bod pedwar pwnc academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ymhlith goreuon y byd.
Yn ôl yr arolwg, roedd Aberystwyth ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd ar gyfer Daearyddiaeth, gyda Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol, ac Amaethyddiaeth a Choedwigaeth yn parhau ymhlith y 150 uchaf yn y byd, a Gwyddor yr Amgylchedd yn y 300 uchaf yn y byd.