Pennaeth y Brifysgol ar Drothwy Her IronMan
Yr Athro John Grattan yn rhedeg lan Rhiw Craig Laes yn Aberystwyth yn ystod un o’i sesiynau hyfforddi.
12 Medi 2016
Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn mynd trwy ei baratoadau olaf cyn wynebu un o heriau corfforol mwyaf ei fywyd.
Fore Sul 18 Medi 2016, bydd yr Athro John Grattan yn ymuno â rhyw ddwy fil o athletwyr eraill yn achlysur byd-enwog IronMan Cymru yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro.
Ei nod fydd nofio 2.4 o filltiroedd yn y môr, seiclo 112 o filltiroedd ac yna rhedeg marathon llawn mewn llai na dwy awr ar bymtheg.
Mae’n dipyn o sialens i unrywun ond dywed yr academydd 56 oed fod yr achos da mae’n codi arian ar ei gyfer yn ei yrru ymlaen.
Gofyn am gyfraniadau y mae’r Athro Grattan tuag at Gronfa Aber sy’n galluogi’r Brifysgol i gynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr a allai fod yn wynebu argyfwng ariannol difrifol heb fod unrhyw fai arnyn nhw.
Fel rheol mae’r Gronfa yn dibynnu ar gefnogaeth Alumni Prifysgol Aberystwyth, ond eleni mae’r Is-Ganghellor Dros Dro wedi ymrwymo i gyfrannu a chodi ymwybyddiaeth hefyd.
Mae’r Gronfa Caledi a lles myfyrwyr yn agos at ei galon oherwydd ei brofiad personol. Yn ddeunaw oed ni fu’n bosibl iddo fynd i’r brifysgol am fod angen iddo aros gartref i gynorthwyo i gynnal ei rieni a’i frodyr a chwiorydd.
“Pan gyrhaeddais y brifysgol yn y diwedd yn 26 oed, fe newidiodd hynny fy mywyd a rhoi i mi agwedd newydd ac ehangach. Dwi eisiau ceisio sicrhau bod eraill yn cael yr un cyfle i gyflawni eu potensial,” meddai’r Athro Grattan. “Mae profiad y myfyrwyr yn holl bwysig ac yn ganolog i bob dim rydyn ni’n ei wneud yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.”
Mae cadw’n heini wedi bod yn bwysig i’r Athro Grattan erioed ond wrth baratoi ar gyfer IronMan Cymru, aeth ati i ddilyn rhaglen hyfforddi ddwys gan weithio’n agos gyda staff yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol ac yn adran Gwyddorau Chwaraeon yr Athrofa Astudiaethau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
“Pan ddechreuais hyfforddi go iawn ddechrau’r flwyddyn, roedd y 18fed o Fedi yn ymddangos yn bell i ffwrdd ond gyda dyddiau’n unig i fynd bellach, dwi’n gobeithio mod i wedi gwneud digon,” meddai’r Athro Grattan.
“Dwi’n sicr wedi colli ychydig o bwysau yn ystod y misoedd diwethaf, dwi mewn siâp dipyn gwell nag oeddwn i a dwi wedi darganfod cyhyrau newydd. Beth bynnag sy’n digwydd Ddydd Sul, dwi’n benderfynol o barhau i gadw’n heini. Rydyn ni’n ffodus iawn yn Aberystwyth ein bod yn gallu seiclo a rhedeg yng nghanol golygfeydd godidog. Dwi hefyd yn hoff iawn bellach o nofio yn nyfroedd hyfryd Bae Ceredigion - pan mae’r tywydd yn caniatiàu wrth reswm.”
Ymhlith y rheiny sydd wedi dymuno’n dda i’r Is-Ganghellor mae aelod o dîm beicio Prydain enillodd fedal aur yn y ras erlid yng Ngemau Olympaidd Rio 2016, Ed Clancy, fu yng Ngŵyl Seiclo Aber eleni.
Mae modd cyfrannu neu ganfod mwy am yr her ar wefan ironmanvc.everydayhero.com/uk/johngrattan.