Clwb Roboteg Aberystwyth yn cynnal gweithdai yn yr Hen Goleg

07 Medi 2016

Daeth Glwb Roboteg Aberystwyth, ynghyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, i  gynnal dau weithdy technoleg arloesol i bobl ifanc a oedd yn archwilio syniadau am godio a roboteg ar ddydd Mercher 31 Awst yn yr Hen Goleg.

Dywedodd Stephen Fearn o Glwb Roboteg Aberystwyth: “Roedd yn ddiwrnod o hwyl a darganfod yn llawn technoleg, lle y bu staff a myfyrwyr-lysgenhadon yn cynorthwyo’r cyfranogwyr wrth iddynt ddysgu sgiliau newydd ac ymgymryd â heriau roboteg a rhaglennu yn adeilad trawiadol yr Hen Goleg.”

Roedd Gweithdy Minecraft wedi’i anelu ar gyfer plant 9-13 a chafwyd  eu herio i adeiladu rhannau o’r Hen Goleg, a dysgu sut i raglennu ym Minecraft.  Yn ystod y diwrnod, bu’r plant yn darganfod mwy am yr adeilad, gan archwilio pob twll a chornel, edrych ar y cynlluniau a thynnu ffotos i’w helpu i gynllunio ac adeiladu. Edrychwyd ar y rhaglennu o fewn Minecraft, sy’n agor pob math o bosibiliadau ar gyfer codio creadigol. Ar ddiwedd y dydd, roedd cyfle i’r plant gymryd rhan mewn sesiwn ‘dangos a dweud’ i ddangos eu creadigaethau i’w ffrindiau a’u teuluoedd.

Yn ogystal â hyn, roedd y Gweithdy Roboteg yn gyfle i dimau teuluol (uchafswm o bedwar person) adeiladu a rhaglennu robotiaid NXT Lego Mindstorm. Wedi’u hysbrydoli gan ymchwil i roboteg ar y blaned Mawrth, roedd y cyfranogwyr iau (gyda chymorth eu perthnasau hŷn) yn adeiladu robotiaid a reolir o bell ac yna’n eu rhaglennu i weithio’n fwy annibynnol. Cafwyd gyfle i  ddysgu am y blaned Mawrth, robotiaid, rhaglennu a mwy.

Ychwanegodd Dr Hannah Dee, uwch ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac aelod o Glwb Roboteg Aberystwyth: “Roedd y gweithdai hyn yn cynnwys codio chwareus a chreadigol, yn ogystal â thasgau ymarferol fel adeiladu, cynllunio ac ymchwilio.”