Datrys Dirgelwch Madarch DNA
Enghraifft o'r Labordy Bento sy'n cael ei ddefnyddio i echdynnu DNA madarch
01 Medi 2016
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ffurfio partneriaeth gyda gwyddonwyr lleyg yn Sir Benfro mewn ymgais i ddatrys dirgelwch DNA madarch.
Mae gwaith y Dr Gareth Griffith, Caio Leal-Dutra a Lisa Classan o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth wedi dangos hefyd nad mewn labordai arbenigol yn unig y mae modd dadansoddi bariau cod DNA bellach – maen nhw wedi dod â’r dechnoleg i mewn i’r cartref.
Trwy gyfrwng cynllun y Labordy Bento, mae’r tîm o dri yn cael cymorth ar gyfer eu hymchwil ar ecoleg ffyngau gan griw o unigolion sy’n frwd dros wyddoniaeth ond sydd bellach wedi ymddeol.
Blwch bach tua’r un maint â chluniadur neu dun bisgedi yw’r Labordy Bento sy’n cymryd ei enw o’r term Siapaneaidd ar gyfer bocs bwyd ac sy’n cynnwys popeth sydd ei angen i echdynnu DNA madarch a chreu cod bar geneteg.
Bu cryn drafod ers hanner canrif ymhlith biolegwyr ffyngau sy’n anghytuno ar fater sawl rhywogaeth sydd yna o’r Cap Cwyr Duol - math o fadarchen sydd i’w gweld ar hyd a lled Cymru a’r Deyrnas Unedig. Ai un rhywogaeth sydd yntau sawl un?
Mae amrywiaeth eang o ran lliw a siâp ond mae astudiaethau cynnar wedi methu â datrys y mater hyd yma. Gobaith Dr Griffith a’i dîm yw canfod yr ateb unwaith ac am byth.
Dyma alw felly ar y gwyddonwyr lleyg, yn benodol David Harris a’i gyd aelodau o Rwydwaith Cofnod Ffyngau Sir Benfro.
Roedd Dr Griffith yn adnabod ambell unigolyn cyn i’r grwp gael ei ffurfio ac mae gan bob un gefndir gwyddonol. Maen nhw eisoes wedi profi eu gwerth i’r prosiect ymchwil hwn.
Diolch i’w gwybodaeth fanwl am Sir Benfro, mae’r aelodau wedi bod yn cofnodi lle maen nhw’n canfod y madarch, yn casglu samplau ac yn tynnu lluniau i ddangos manylion y cynefinoedd ar gyfer bàs data sydd wedi’i greu gan Dr Griffith.
Mae Rhwydwaith Cofnod Ffyngau Sir Benfro hefyd wedi bod yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r cwmni sydd wedi creu’r Labordai Bentro, gan roi gwybod am unrhyw broblemau maen nhw’n dod ar eu traws wrth ddefnyddio’r Blychau Bento prototeip er mwyn hybu gwelliannau.
Mae’n ddyddiau cynnar o hyd ond mae eu cynnig cyntaf gyda deuddeg sampl wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan ddychwelyd yr union ganlyniadau roedd Dr Griffith wedi gobeithio eu gweld.
“Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda grŵp sydd mor frwdfrydig dros y prosiect. Gyda’u cymorth a’u gwybodaeth am gefnwlad Sir Benfro, rydyn ni wedi gweld cynnydd go iawn,” meddai’r Dr Griffith.
“Pan gefais air gyda nhw’n gyntaf, roedden nhw’n awyddus i wneud mwy na chasglu samplau yn unig felly maen nhw hefyd wedi gallu gwneud dadansoddiad DNA o’u cartrefi eu hunain gan ddefnyddio’r Labordai Bento prototeip. Rwy’n rhagweld dyfodol hir o’n blaenau fel tîm ac fe hoffem barhau i weithio gyda nhw ar brosiectau eraill.”