Darlith Daearyddwr o Aberystwyth yn y Brifwyl
Dr Hywel Griffiths
01 Awst 2016
Uwch-ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth sy’n traddodi darlith wyddonol flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn y Fenni eleni.
Ym Mhabell y Cymdeithasau am 1 o’r gloch Ddydd Llun 1 Awst, bydd y Dr Hywel Griffiths o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn siarad am geomorffoleg sef yr astudiaeth wyddonol o darddiad a datblygiad tirffurfiau a thirluniau.
Bydd yn nodi deg rheswm pam fod geomorffoleg yn bwysig o ran deall sut mae’n tirlun wedi cael ei ffurfio yn y gorffennol a sut mae newidiadau amgylcheddol byd-eang yn dylanwadu ar y tirlun heddiw.
“‘Mae’n fraint cael traddodi darlith wyddonol flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni. Mae’r Coleg wedi cefnogi llawer iawn o fy ngwaith ar geomorffoleg Cymru ar hyd fy ngyrfa ac rwyf yn ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i gael rhannu peth o ffrwyth yr ymchwil hwnnw yn y Fenni,” meddai’r Dr Griffiths.
“Mae tirwedd a thirluniau Cymru yn rhannau annatod o’n hunaniaeth ni fel cenedl, ac maent yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Mae’r prosesau sydd yn creu’r tirlun yn amrywiol, diddorol a phwysig inni fel cymdeithas ond nid ydynt yn cael sylw teilwng yn aml.
“Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Gymdeithas Geomorffoleg Prydain am noddi’r fersiwn Gymraeg o’u pamffled ’10 rheswm mae geomorffoleg yn bwysig’. Dyma’r tro cyntaf i’r Gymdeithas gyhoeddi testun Cymraeg, a gobeithio y daw mwy yn y dyfodol.”
Yn ogystal â’r ddarlith, bydd y Dr Griffiths i’w weld mewn sawl lle arall ar hyd y maes yn ystod yr wythnos – nid yn unig yn rhinwedd ei swydd fel daearyddwr ond hefyd fel prifardd.
Bydd yn treulio cryn dipyn o’i amser yn y Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg lle mae Prifysgol Aberystwyth yn brif noddwr eleni.
Ymhlith y gweithgareddau a’r arddangosfeydd sydd gan y Brifysgol yn y Babell bydd yr ‘Afon Fach, sy’n esbonio esblygiad afon; sied potio planhigion; delweddu 3D o’r blaned Mawrth; creu diemwntau artiffisial, a robotiaid bach.
Dydd Iau 4 Awst, bydd y Dr Griffiths yn ymuno â chydweithiwr arall o Brifysgol Aberystwyth sydd hefyd yn fardd sef Eurig Salisbury o’r Adran Gymraeg ac Astudiaeth.
Bymtheng mlynedd ers cyrraedd Aberystwyth yn las fyfyrwyr, bydd y ddau ddarlithydd yn bwrw golwg nôl ar rai o’r cerddi maen nhw wedi eu hysgrifennu ers 2001 ac yn rhannu rhai o’u hanturiaethau.
Mae gan Brifysgol Aberystwyth raglen lawn o ddigwyddiadau, darlithiau a gweithgareddau ar y maes eleni ac mae’r manylion i’w gweld ar ein gwefan neu galwch heibio’n stondin ar y maes.