James and the Giant Peach

26 Gorffennaf 2016

Heno (nos Fawrth 26ain Gorffennaf) yw noson agoriadol y gyntaf o sioeau haf mawreddog Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am 2016. Cynhelir perfformiadau tan ddydd Sul 31ain Gorffennaf, ac mae James and the Giant Peach yn addas i’r teulu cyfan. 

Mae stori glasurol Roald Dahl yn dilyn hynt a helynt y James ifanc anturus a’i ffrindiau - Miss Spider, Old-Green-Grasshopper, Centipede, Ladybird ac Earthworm.

Gan ddechrau ar ddiwedd y stori, yn nhraddodiad yr holl straeon gorau, mae James a’i ffrindiau yn byw yng ngharreg eirinen wlanog enfawr ym Mharc Canolog Efrog Newydd, ond y stori go iawn yw sut y bu iddynt gyarredd yno, wedi teithio’r holl ffordd o Glogwyni Gwynion Dofr.  

Anfonwyd y plentyn amddifad James Henry Trotter i fyw gyda’i fodrabedd cas, Spiker a Sponge, ar ôl i’w rieni gael eu lladd mewn damwain drasig gyda rhinoseros. Â James yn dechrau meddwl na fydd modd iddo gael hwyl byth eto, mae’n cyfarfod â hen ŵr sy’n rhoi iddo gwdyn sy’n dal y cynhwysion ar gyfer y ddiod hudol gryfaf yn y byd. Pan mae James yn ei gollwng yn ddamweiniol ger bwys yr hen goeden eirinen wlanog yng ngardd ei fodrabedd, mae’r pethau mwyaf anhygoel yn dechrau digwydd ac mae’n cychwyn allan ar anturiaeth fwyaf ei fywyd.

Ymunwch â James a’i ffrindiau trychfil newydd ar eu taith syfrdanol llawn gelynion, peryglon a chyffro, sy’n mynd â nhw hanner ffordd o amgylch y byd mewn eirinen wlanog enfawr sy’n byrlymu â ffrindiau, cerddoriaeth a chwerthin.

Cynhelir perfformiadau gyda’r nos o James and the Giant Peach am 7.30pm o ddydd Mawrth tan ddydd Sul. Bydd y sioeau prynhawn yn dechrau am 2.30pm ddydd Mercher, dydd Iau, a dydd Sadwrn a dydd Sul. Bydd y cynhyrchiad brynhawn Sadwrn 30ain Gorffennaf yn cael ei arwyddo yn Iaith Arwyddion Prydain.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i: https://aberystwythartscentre.co.uk/family/james-and-giant-peach

Cynhyrchir James and the Giant Peach gan Gwmni Theatr Sell A Door, cwmni sydd wedi ennill gwobrau am gynhyrchu sioeau theatr teithiol ar raddfa canolig a mawr.

Bydd yr ail o sioeau haf Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, sef Footloose, yn ffrwydro i’r llwyfan ar 10fed Awst, a bydd y perfformiadau’n para tan 27ain Awst.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau i Footloose ewch i: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/theatre/footloose