Prifysgol Aberystwyth yn ennill Gwobr y Faner Werdd

Campws Penglais

Campws Penglais

21 Gorffennaf 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill Gwobr y Faner Werdd am yr ail flwyddyn yn olynol ar gyfer Campws Penglais, ac mae Campws Llanbadarn wedi cael llwyddiant hefyd trwy ennill y wobr am y tro cyntaf.

Cyflwynwyd y wobr gan Cadwch Prydain yn Daclus yn Seremoni Wobrwyo De Orllewin Lloegr a Chymru yn Cheltenham ar 21 Gorffennaf 2016.

Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth y wobr hon drwy gwblhau cynllun rheoli a chael ei barnu ar ardaloedd allanol y campws, gan ganolbwyntio ar wyth maen prawf sy’n cynnwys cynaliadwyedd, cadwraeth a threftadaeth a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Paul Evans, Rheolwr Tiroedd Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r Wobr hon yn deyrnged i’r holl waith caled ychwanegol y mae’r staff Tiroedd wedi’i gyflawni i ennill y Wobr hon, a hynny ar gyfer dau o Gampsau’r Brifysgol.

“Mae’n wobr ardderchog i anelu ati, nid yn unig i helpu i gynllunio’r gwaith rheoli mewn modd mwy strwythurol, codi’r safon a gwella’n gyson, ond mae hefyd yn rhoi cydnabyddiaeth i’r staff dan sylw am eu llwyddiant. Fy nod yw dal ati i ennill y wobr a pharhau i wella.”

Campws Penglais Prifysgol Aberystwyth oedd y campws Prifysgol cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr y Faner Werdd pan yr enillodd y wobr yn 2015.

Mae Gwobr y Faner Werdd yn bartneriaeth ar draws y Deyrnas Gyfunol, sy’n cael ei gweithredu yng Nghymru gan Cadwch Cymru’n Daclus gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (er mai Cadwch Prydain yn Daclus gyflwynodd y wobr i Brifysgol Aberystwyth eleni), sydd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd o safon uchel.

Mae’r beirniaid yn arbenigwyr mewn mannau gwyrdd sy’n ymweld â safleoedd yr ymgeiswyr a’u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, sy’n cynnwys safonau garddwriaethol, glendid, cynaliadwyedd a chyfranogiad cymunedol.


AU23216