Cyhoeddir mai Mind Aberystwyth yw Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon (canol) gyda staff o MIND Aberystwyth, o'r chwith i'r dde: Tim Bennett, Eleanor Parker, Jennie Thomas a Bethan Roberts

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon (canol) gyda staff o MIND Aberystwyth, o'r chwith i'r dde: Tim Bennett, Eleanor Parker, Jennie Thomas a Bethan Roberts

12 Gorffennaf 2016

Cyhoeddir mai Mind Aberystwyth yw elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor am yr ail flwyddyn yn olynol.

Gwnaed y cyhoeddiad gan yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor y Brifysgol y bore ma (dydd Mawrth 12 Gorffennaf), yn ystod y cyntaf o’r seremonïau gradd eleni.

Bellach yn ei phumed blwyddyn, nod Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor yw codi arian hanfodol i achos teilwng.

Mae Mind Aberystwyth yn hyrwyddo a diogelu gwell iechyd meddyliol i bawb, ac yn gweithio i greu bywyd gwell i rai sy’n dioddef gofid meddyliol.  Mae’n rhoi gwybodaeth a chefnogaeth ac yn datblygu gwasanaethau lleol i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ofid meddyliol, gan gynnwys eu gofalwyr, eu teuluoedd a chyfeillion a chefnogwyr.

Meddai’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor y Brifysgol, said: “Rydyn ni’n hynod falch fod Mind Aberystwyth wedi’i dewis yn Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor am yr ail flwyddyn. Mae sawl achlysur yn codi yn ystod y flwyddyn lle mae’n bosibl codi arian i elusen leol, ac edrychwn ymlaen i gefnogi Mind Aberystwyth yn ystod y flwyddyn i ddod.”

Bob blwyddyn mae Prifysgol Aberystwyth yn codi arian i Elusen y Flwyddyn wahanol. Myfyrwyr a staff y Brifysgol sy’n enwebu’r elusennau ac yna’n pleidleisio o blith rhestr fer i ddewis yr Elusen swyddogol am y flwyddyn.  Yn 2015/16, cododd Prifysgol Aberystwyth dros £2,000 i Mind Aberystwyth.

Dywedodd Prif Weithredwr Mind Aberystwyth Fiona Aldred: "Rydym wrth ein bodd fod Prifysgol Aberystwyth wedi dewis Mind Aberystwyth i fod yn Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor am yr eildro. Bydd cefnogaeth gan y Brifysgol yn ei gwneud hi’n bosibl i Mind Aberystwyth barhau i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ofid meddwl i fyw bywydau llawn, ac i chwarae eu rhan yn llawn mewn cymdeithas.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Mind Aberystwyth trwy fynd i http://mindaberystwyth.org/