Gwobr Glodfawr i Brifysgol Aberystwyth

11 Gorffennaf 2016

Mae panel Asesu Juno’r Sefydliad Ffiseg wedi dyfarnu statws Ymarferydd Juno i Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth. Dyma’r ail Brifysgol yn unig yng Nghymru i dderbyn yr anrhydedd mawr hwn.

Nod prosiect Juno yw cydnabod a gwobrwyo adrannau sy’n gallu dangos eu bod wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r ffaith fod menywod yn cael eu tangynrychioli ym maes ffiseg mewn prifysgolion ac i annog gwell ymarfer ar gyfer dynion a menywod.

Mae Cyfarwyddwr Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth, Dr Debra Croft, yn falch fod ymdrechion hirdymor yr adran wedi’u cydnabod.

“Rwyf wrth fy modd fod yr Adran Ffiseg wedi’i chydnabod trwy’r wobr Ymarferydd yma. Ers mwy na 10 mlynedd, rwyf wedi fy rhyfeddu gan ymroddiad a brwdfrydedd parhaus yr holl staff, ar bob lefel a phob rhyw, i wneud ffiseg yn hygyrch i bawb, ac i annog a hyrwyddo menywod mewn gwyddoniaeth.”

Sefydlwyd Prosiect Juno gan y Sefydliad yn 2007 i ymateb i’r arferion gorau a nodwyd ym mhrosiect y Sefydliad Ffiseg, “Merched yn Adrannau Ffiseg Prifysgolion”.

Ychwanegodd yr Athro Andrew Evans, Pennaeth yr Adran Ffiseg, “Mae’r wobr hon yn dyst i’r gwaith y mae’r tîm yma wedi’i wneud i gyrraedd y garreg filltir hon.

Casglwyd tystiolaeth sylweddol i ddangos sut yr ydym ni fel adran yn ymroi i wella hygyrchedd maes academaidd sy’n cael ei ystyried yn draddodiadol yn faes sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion. Nid dyma ddiwedd y daith – byddwn yn parhau i archwilio a nodi rhagor o arferion da i gryfhau ein safle fel patrwm o adran.”

Cafodd Ffiseg a Seryddiaeth eu dysgu yn Aberystwyth ers i’r Brifysgol gael ei sefydlu yn yr Hen Goleg ar lan y môr yn 1872. Mae’r adran bellach yn gartref i fwy na 300 o fyfyrwyr israddedig, uwchraddedig ac ymchwil, yn ddynion a menywod, sy’n astudio ffiseg ac astroffiseg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r wobr yn cryfhau safle Prifysgol Aberystwyth fel sefydliad sy’n ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y byd academaidd. Yn ddiweddar, dewisodd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol yr Athro Eleri Pryse o Adran Ffiseg y Brifysgol ar gyfer un o’r 21 portread ffotograffig o’i phrif gymrodyr benywaidd.

Mae’r Athro Pryse wedi cyflawni gwaith ymchwil sy’n torri tir newydd ac wedi hyrwyddo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod ei gyrfa dros 26 blynedd.

 Hefyd, cafodd Dr Hannah Dee o’r Adran Gyfrifiadureg ei henwi y nawfed ferch fwyaf dylanwadol ym maes cyfrifiadureg yn y DU gan Computing Weekly.

Er mwyn hyrwyddo ymhellach gydraddoldeb yn y byd academaidd a thu hwnt, mae Prifysgol Aberystwyth yn cydweithredu â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd ar brosiect ymchwil sy’n ceisio adnabod y rhwystrau sy’n wynebu menywod o grwpiau economaidd-gymdeithasol is sy’n chwilio am yrfa yn y gwasanaeth sifil.

AU23416