Aberration yng Ngwobrau Cyntaf Aber

Tîm Aberration. O'r chwith: Helen Sandler, trefnydd; Ruth Fowler, trefnydd; Kedma Macias, cantores; Lisa Smith, cerddor; Jane Hoy, trefnydd; Mike Parker, perfformiwr; Tom Marshman, perfformiwr; Leonie Campbell, perfformiwr.

Tîm Aberration. O'r chwith: Helen Sandler, trefnydd; Ruth Fowler, trefnydd; Kedma Macias, cantores; Lisa Smith, cerddor; Jane Hoy, trefnydd; Mike Parker, perfformiwr; Tom Marshman, perfformiwr; Leonie Campbell, perfformiwr.

28 Mehefin 2016

Mae noson gelfyddydol LHDT 'Aberration' - sy'n cael ei rhedeg gan Ruth Fowler, swyddog Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y cyd â phartneriaid busnes Canolfan y Celfyddydau a Spring Out - wedi'i henwebu am Wobr y Celfyddydau yn Seremoni Gwobrau Cyntaf Aber.

Mae Aberration yn cynnal digwyddiadau rheolaidd a llwyddiannus sydd â thema LHDT yn y gymuned, yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ac mewn lleoliadau eraill yn y Brifysgol.

Nod y digwyddiadau, a gynhelir dair neu bedair gwaith y flwyddyn, yw cael effaith gadarnhaol ar y Brifysgol ac ar y gymuned leol fel ei gilydd. Mae'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag Aberration yn cyfrannu at y gymdeithas mewn llawer ffordd, er enghraifft drwy gynnwys y gymuned mewn digwyddiadau cymdeithasol newydd, yn enwedig yn y trefniadau.  

Mae'r digwyddiadau yn hybu a hyrwyddo celfyddydau a busnesau lleol, ac er bod ganddynt thema LHDT, mae croeso i bawb. Mae canran o'r arian a godir yn y digwyddiadau yn mynd at elusennau LHDT. 

Yn ogystal â chodi arian i elusennau, mae'r digwyddiadau yn darparu lleoliadau gwaith i wirfoddolwyr ac yn hybu'r Gymraeg a dwyieithrwydd. Yn fwy diweddar mae Aberration wedi dechrau gweithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi dechrau cefnogi'r digwyddiadau drwy gynnig gwobrau a grantiau bychain. Mae'r digwyddiadau hefyd yn hybu ymwybyddiaeth o faterion gwyrdd ac amgylcheddol ar y cyd ag ymwybyddiaeth o faterion LHDT.

Dywedodd Ruth Fowler: "Rwy wrth fy modd bod Aberration ar y rhestr fer am y wobr hon. Mae'r digwyddiadau yn tynnu sylw at Aberystwyth fel tref gadarnhaol, wrth-homoffobig a gwrth-wahaniaethol. Mae'r digwyddiadau hefyd yn hybu'r Gymraeg, a chan ei fod yn gorff nid-er-elw, mae'r hollol artistiaid sy'n cyfrannu yn cael eu talu'n gyfartal. Rwy'n meddwl ei bod hi'n wych bod digwyddiad fel Aberration yn cael y fath gydnabyddiaeth gadarnhaol."

Caiff seremoni wobrwyo Gwobrau Cyntaf Aber ei chynnal yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, Nos Wener 1 Gorffennaf, 6-8.30pm.

Dechreuodd Gwobrau Cyntaf Aber yn 2008 ac fe’u cynhelir bob yn ail flwyddyn er mwyn cydnabod cyfraniadau unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau yn Aberystwyth a'r ardal.

Mae'r Gwobrau yn cael eu trefnu gan Fenter Aberystwyth, partneriaeth adfywio ar gyfer Aberystwyth a'r ardal gyfagos, gyda chefnogaeth nifer o sefydliadau a busnesau.

AU20116