Cymru yn Ewro 2016: Cael y Maen i’r Wal

Dr Maria Heinrich (chwith) o’r Arolwg Daearegol Awstria efo yr Athro Alex Maltman o Brifysgol Aberystwyth yn dal y pêl-droed craig.

Dr Maria Heinrich (chwith) o’r Arolwg Daearegol Awstria efo yr Athro Alex Maltman o Brifysgol Aberystwyth yn dal y pêl-droed craig.

20 Mehefin 2016

Mae darn o dywodfaen o greigiau Bae Ceredigion wedi’i ddewis gan Athro o Brifysgol Aberystwyth i gynrychioli Cymru mewn arddangosfa Ewro 2016 o beli-troed carreg yn Awstria.

Cafodd yr Athro Alex Maltman o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol gais yn gynharach eleni gan Arolwg Daearegol o Awstria i anfon darn o graig Cymreig i Fienna.

Aeth ati i ddewis darn o’r creigiau yng Nghlarach, ychydig filltiroedd o’i waith ym Mhrifysgol Aberystwyth – darn o dywodfaen llwyd tywyll gyda gwythiennau trawiadol o fwyn calseit gwyn, yn dyddio nôl i’r cyfnod Silwraidd rhwng 419.2 a 443.8  miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd y garreg o Glarach ei hanfon i Awstria a’i ffurfio’n bêl-droed fach loyw cyn cymryd ei lle mewn arddangosfa o beli-troed bach tebyg o bob un o’r 24 gwlad sy’n cystadlu yn Ewro 2016.

Dyma’r trydydd tro i Arolwg Daearegol Awstria greu arddangosfa o’r fath i ddathlu’r Ewros – ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw orfod cynnwys Cymru.

"Roedd yr holl beth yn reit ddigri â dweud y gwir,’ meddai’r Athro Maltman sydd newydd ddychwelyd o Awstria. ‘Un funud, `roeddwn i’n trafod taith arfaethedig i Awstria gyda phennaeth yr Arolwg Daearegol a’r funud nesa roeddwn i’n dewis un darn o garreg i gynrychioli gwlad gyfan! Roedd bach o wên ar fy wyneb wrth i mi anfon y pecyn trwm o Swyddfa Bost fach Penrhyncoch yr holl ffordd i Fienna."

Mae’r 24 o beli-troed bach carreg wedi’u rhannu yn ôl grŵp gyda thywodfaen Cymru yn ymuno â charreg galch Lloegr, onics aur Slofacia a dolerid du Rwsia.

 

Gyda thaith maes eisoes wedi’i threfnu i Awstria ym mis Mehefin 2016, roedd gan yr Athro Maltman gyfle perffaith i weld y garreg yn cymryd ei lle haeddiannol yn arddangosfa’r Ewros.

Yn debyg i Gymru, meddai, mae Awstria’n wlad cymharol fechan sydd wedi gwirioni ar gyrraedd y twrnament, gyda lluniau o’u tîm ar y strydoedd ymhobman.

Gobaith yr Athro Maltman nawr yw bod y garreg o Glarach yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol Cymru yn yr arddangosfa.

"Os oes gan wlad bêl-droed eisoes o dwrnameint y gorffennol, maen nhw’n defnyddio’r un un eto; ond gan nad yw Cymru wedi llwyddo ers peth amser, roedden nhw angen cael un o’r newydd ac roedd yn grêt cael ein gweld yno. Mae gen i obeithion mawr o’n gweld yno eto ymhen pedair blynedd!"

`Dyw Cymru ddim wedi cyrraedd twrnament pêl-droed rhyngwladol ers 1958 ond 57 mlynedd yn ddiweddarach, fe lwyddodd aelodau’r tîm i ennill tocyn aur hollbwysig i Ewro 2016. Mae eu lle yn y llyfrau hanes yn ddiogel. Maen nhw wedi cael y maen i’r wal.

 

Gweldlluniau o'r bêl-droed carreg

 

AU19716