Sefydliadau arweiniol yn rhoi llwyfan i'r biowyddorau yn eich maes chi yn Cereals 2016
IBERS yn ennill Cwpan NIAB yn CEREALS 2015
07 Mehefin 2016
Bydd gwyddonwyr o orsaf ymchwil Rothamsted Research, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a Chanolfan John Innes wrth law i ddangos y datblygiadau diweddaraf mewn gwaith ymchwil i ffermio tir âr. Bydd y tri sefydliad ymchwil yn dangos eu gwaith ar y cyd i 25,000 o ffermwyr tir âr ac agronomegwyr yn Stondin 702 yn y digwyddiad a gynhelir ar 15 a 16 Mehefin yn Chrishall Grange, Swydd Gaergrawnt.
Bydd yr arddangosfeydd yn canolbwyntio ar fiowyddoniaeth yn y maes, a sut mae'r diwydiant yn defnyddio'r ymchwil ddiweddaraf er budd amaethyddiaeth, megis cynyddu maint y cynnyrch a gwella cnydau. Bydd yr ymwelwyr yn dysgu am yr ymchwil arloesol sydd ar y gweill yn y sefydliadau sy'n cael cyllid strategol gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC).
Y cynffonwellt du fydd y prif destun trafod mewn cyfarfod brecwast a gynhelir yn y stondin ar 15 Mehefin rhwng 8.30 a 9.30 y bore, lle y bydd y Dr Paul Nevel o Rothamsted Research yn trafod y dulliau diweddaraf o'i reoli.
Dewch i Stondin 702 i weld plotiau ac i holi'r gwyddonwyr. Yno cewch weld gwyddonwyr Rothamsted yn cyflwyno eu gwaith, gan gynnwys arddangosfeydd ar:
- Rheoli'r cynffonwellt du (y Dr Paul Neve)
- Septoria, Lleidr-yr-ŷd/Penwyn a Fusarium
- Ffenoteipio cnydau (y Dr Andrew Riche)
- Rheoli chwilod bruchid
- Yr Offer Cyfnewid Gwybodaeth CROPROTECT (y Dr Toby Bruce)
Bydd ymwelwyr â stondin 702 hefyd yn gallu dysgu am ymchwil yn IBERS, yn enwedig eu gwaith datblygu ceirch. Mae'r mathau o geirch a ddatblygwyd gan IBERS yn cyfrif am 65 y cant o'r holl geirch a ddefnyddir yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn, ac fe fydd gwyddonwyr yno i ddisgrifio:
- 100 mlynedd o fridio ceirch
- Y mathau o geirch a dyfir heddiw
- Mathau treftadaethol a brodorol o geirch o bedwar ban byd
- Cynyddu'r amrywiaeth genynnol ar gyfer bridio ceirch
Bydd ymchwilwyr o John Innes yn Stondin 702 yn tyfu 'gwybodlun byw' anferth o rawnfwydydd yn dangos faint o blanhigion sydd eu hangen ar gyfer y bwyd a fwytawn, a sut mae amrywio'r cynnyrch yn gallu effeithio ar ein gallu i fwydo poblogaeth y byd. Gall yr ymwelwyr wedyn weld canlyniadau'r ymchwil hon ar waith yn stondinau partneriaid eraill yn Cereals, yn yr arddangosfeydd ar
- Ymwrthedd i lygaid gwenith a'i gyswllt â'r cynnyrch a'r cynnwys protein(y Dr Paul Nicholson-stondin RAGT)
- Pathogenomeg o'r maes, sy'n golygu y gall gwyddonwyr adnabod gwahanol geinciau o bathogenau ffwngaidd, megis cawod felen y gwenith, yn gyflym (y Dr Diane Saunders-stondin NIAB)
- Chwalfa codau rêp had olew (yr Athro Lars Ostergaard—stondin Velcourt)
- Casgliad gwenith hanesyddol (Mike Ambrose-stondin Velcourt)
- Geneteg gwenith a ffenoteipio cnydau (y Dr Simon Griffiths,y Dr Cristobal Uauy—stondin Velcourt)
- Geneteg pys (Dr Claire Domoney—stondin PGRO/BEPA)
- Barlys treftadaethol(y Dr Chris Ridout)
AU18516