Wythnos Cychwyn Busnes 2016
Rhai o gyfranogwyr Wythnos Dechrau Busnes 2015 gyda’r Tony Orme.
26 Mai 2016
Os ydych chi wedi breuddwydio am gychwyn eich busnes eich hun, neu am droi'ch syniad da yn fusnes gwych, neu os oes gennych egin-fenter rydych am ei datblygu ymhellach, bydd Wythnos Cychwyn Busnes Prifysgol Aberystwyth yn ddelfrydol i chi.
Bydd y digwyddiad yn para o ddydd Mawrth 31 Mai i ddydd Gwener 3 Mehefin, un o'r digwyddiadau blynyddol mwyaf yng Nghymru i hyrwyddo busnesau newydd.
Bydd yn cynnwys rhaglen a fydd yn ysgogi'r meddwl gyda gweithdai yn rhad ac am ddim ar sgiliau busnes, yn ymdrin â'r materion allweddol sy'n wynebu busnesau newydd.
Gan ganolbwyntio ar hyfforddiant mewn sgiliau busnes hanfodol, mae'r rhaglen yn cynnwys sesiynau ar ymchwil i'r farchnad, dylunio a chynllunio strategaeth marchnata, celfyddyd a gwyddor gwerthu, marchnata digidol, a darogan a chynllunio ariannol.
Mae'r gweithdai yn darparu awgrymiadau a chyngor ymarferol gan fentrwyr busnes lleol, cynghorwyr busnes a staff menter y Brifysgol.
Mae croeso i bawb (gan gynnwys staff, myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Aberystwyth) i'r gweithdai a gynhelir, yn rhad ac am ddim, ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.
Mae Tony Orme o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn esbonio: “Mae Wythnos Cychwyn Busnes yn rhoi ysbrydoliaeth a budd profiad uniongyrchol mentrwyr busnes llwyddiannus, gyda chyngor ymarferol a chyfleoedd i rwydweithio.
“Mae fformat y digwyddiad yn cynnig hyblygrwydd fel y gallai pobl ddod am y rhaglen gyfan, neu fe allant ganolbwyntio ar bynciau sydd o ddiddordeb penodol iddynt.
“Un fantais ychwanegol o ddod i'r digwyddiad hwn yw'r cyfle i gwrdd â mentrwyr busnes o'r un anian a meithrin rhwydwaith a allai fod o gymorth wrth i chi fwrw ymlaen â'ch syniad am fusnes.”
Partneriaeth yw'r Wythnos Cychwyn Busnes, rhwng Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth a Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle ar un neu fwy o'r gweithdai, cysylltwch â Tony Orme ar awo@aber.ac.uk neu 01970 622374.