Cap rygbi Cymru i fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth
Owen Daniel Howells
25 Mai 2016
Mae Owen Daniel Howells, myfyriwr sydd yn ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi ennill ei gap cyntaf yn chwarae dros Gymru.
Chwaraeodd Owen - sydd yn ei drydedd flwyddyn o astudio Daearyddiaeth Ffisegol, ac sydd yn gapten ar dîm cyntaf Rygbi Undeb y Brifysgol - i Fyfyrwyr Cymru yn eu gêm yn erbyn Myfyrwyr Ffrainc ddydd Mercher 4 Mai. Cynhaliwyd y gêm yng Nghanolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Caerffili yn Ystrad Mynach, a'r Cymry oedd yn fuddugol, gan ennill 24-17.
Dywedodd Owen am y gêm, lle y chwaraeodd yn safle prop pen tynn, “Roedd hi'n brofiad gwych i chwarae fy ngêm ryngwladol gyntaf i Fyfyrwyr Cymru. Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth ges i gan fy adran a'r Brifysgol, ac fe hoffwn i feddwl bod fy mhrofiad i yn dangos bod modd astudio a chymryd rhan mewn chwaraeon ar safon uchaf hefyd, os ydych yn fodlon ymroi'n llwyr. Byddaf yn dal i hyfforddi gyda'r garfan y flwyddyn nesaf, ac rwy'n gobeithio cael mwy o gapiau.”
Mae tîm Myfyrwyr Cymru yn rhan allweddol o lwybr Undeb Rygbi Cymru ar gyfer darganfod chwaraewyr addawol a'u datblygu. Mae sawl chwaraewr wedi symud ymlaen drwy Fyfyrwyr Cymru i gynrychioli Cymru yn rhyngwladol.
Bydd Owen yn graddio yn seremonïau graddio'r Brifysgol ym mis Gorffennaf, ac mae'n bwriadu aros ymlaen ym Mhrifysgol Aberystwyth i wneud gradd Meistr.