Gŵyl Seiclo Aberystwyth

25 Mai 2016

Bydd Aberystwyth yn gweld rhaglen lawn antur o feicio dros y penwythnos pan ddaw Gŵyl Seiclo Aberystwyth yn ôl am y seithfed flwyddyn yn olynol rhwng 27-29 ​​Mai.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir mewn partneriaeth â'r Brifysgol, yn croesawu rhai o seiclwyr gorau Prydain ac yn cynnwys nifer fawr o weithgareddau dros y tridiau.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Gweithredol Prifysgol Aberystwyth: “Rwy’n falch iawn bod Prifysgol Aberystwyth yn bartner yng Ngŵyl Seiclo Aberystwyth unwaith eto eleni. Edrychaf ymlaen at gymryd rhan yn 'Y Cawr’, sef reid 106 milltir Sportif Gorllewin Gwyllt Cymru, ddydd Sul 29 Mai fel rhan o fy hyfforddiant parhaus ar gyfer yr her Ironman yn nes ymlaen eleni. Rwy’n edrych ymlaen i weld llawer ohonoch yno. "

Ddydd Gwener (27 Mai), bydd ffyrdd Aberystwyth ar gau ar gyfer cyfres deledu y Tour Series criterium.

Mae'r cwrs un cilometr yn troelli ei ffordd o amgylch adeilad eiconig yr Hen Goleg, sy’n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y castell canoloesol a’r pier Fictorianaidd, ac yn cyffwrdd hefyd â chanol y dref. Mae’n gaddo bod yn ddiwrnod penigamp o adloniant i bobl o bob oed.

Cynhelir y digwyddiad rasio beic mynydd lawr allt, sef Ras ‘Curo’r Clogwyn’ ddydd Sadwrn 28 Mai ar Graig Glais, a dydd Sul 29 Mai, mae pedair llwybr o wahanol bellteroedd i’r beicwyr ddewis o’u plith, gan gynnwys teithiau 26, 41, 70 neu 106 milltir.

Dywedodd Jeff Saycell, Rheolwr Cyfleusterau y Ganolfan Chwaraeon ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rydym wrth ein bodd bod Gŵyl Seiclo Aber wedi dychwelyd am y seithfed flwyddyn yn olynol a bod ei phartneriaeth â'r Brifysgol yn parhau.

"Rwyf yn edrych ymlaen i weld staff a myfyrwyr y Brifysgol yn cymryd rhan yn Ras y Dref v. y Brifysgol ddydd Gwener 27 Mai. Dim ond 20 munud yw hyd y ras hon ac mae’n ras gwisg ffansi felly nid yw’n rhy heriol ac mae’n dipyn o sbort i’r rheiny sydd yn cymryd rhan.”

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr ŵyl fan hyn: http://www.abercyclefest.com/

AU17516