Matter of Life and Death: Ffotograffau o Gasgliad y Brifysgol

'All the Best People Eat at the Pavilion Restaurant' - Angus McBean, 1954

'All the Best People Eat at the Pavilion Restaurant' - Angus McBean, 1954

18 Mai 2016

Dros fisoedd yr haf, bydd ymwelwyr ag Oriel yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael cyfle prin i weld eitemau o gasgliad ffotograffau’r Brifysgol.

Arddangosfa yw Matter of Life and Death o drigain o ffotograffau du a gwyn a ddewiswyd i’w harddangos gan grŵp o fyfyrwyr yr Ysgol Gelf a oedd wedi eu cofrestru ar y modiwl Staging an Exhibition.

Drwy gydol y cwrs, bu’r curadwyr o fyfyrwyr yn trafod sut i ddehongli’r ffotograffau a’u cysylltu â’i gilydd i ddatblygu naratif. Y cyfrwng a’r teitl yn unig a benderfynwyd ymlaen llaw.

Meddai Dr Harry Heuser, Cymrawd Dysgu yn yr Ysgol Gelf sy’n rhedeg y modiwl Staging an Exhibition: “Mae’r ffotograffau yn yr arddangosfa Matter of Life and Death yn rhagddyddio’r oes ddigidol. Cawsant eu cynhyrchu â deunyddiau gwerthfawr, offer drud a rholiau cyfyngedig o ffilm. Roeddent i fod o bwys – i fyw a marw – fel printiau. O edrych ar y gweithiau hyn mewn cyd-destun hanesyddol, diwylliannol neu hunanfywgraffyddol, mae’r arddangosfa yn gwahodd trafodaeth ynghylch gwerthoedd. Pwy sy’n deilwng o’n coffadwriaeth? Beth sydd werth ei gadw, ei ddatguddio a’i rannu?”

Mae llawer o’r ffotograffau hyn heb eu harddangos yn yr oriel hon ers y 1990au. Dyma hefyd yr arddangosfa gyntaf yn yr Ysgol Gelf i gynnwys gweithiau gan y ffotograffydd o Gymro, Angus McBean, sydd fwyaf enwog am ei ffotograffau swreal o actorion llwyfan a sêr sgrin Prydain ac America.

Mae’r ffotograffau yn yr arddangosfa yn amrywio o brintiau mawr wedi’u marcio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i albwm ffotograffau personol. Mae ambell ffotograffydd yn enwog (McBean, Walker Evans, a Mario Giacomelli yn eu plith); eraill yn ddieithr.

Caiff ffotograffau o ffermwyr yn Alabama yn y 1930au eu dangos ochr yn ochr â ffotograffau o fwynwyr yn Sardinia yn y 1980au. Fe welir bywyd yn Aberystwyth nesaf at olygfeydd yn Palermo, Osaka a Bangkok. Bydd ymwelwyr yn gweld wynebau ieuenctid. Ond fe’u hwynebir hefyd â’r oedrannus, pobl ar eu gwely angau a’r meirw.

Bydd Matter of Life and Death ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10am – 5pm, yn Oriel yr Ysgol Gelf, ac yn rhedeg tan ddydd Gwener, 9 Medi 2016.