'The Truth about Trident'

Taflegryn Trident II

Taflegryn Trident II

18 Mai 2016

Bydd Sefydliad Coffa David Davies (DDMI) yn croesawu Timmon Wallis mewn lansiad llyfr a thrafodaeth ar y testun The Truth about Trident ddydd Mawrth 24 Mai.

Mae llyfr newydd Timmon Wallis yn trafod mater dadleuol cadw’r rhaglen niwclear Trident.

Mae’n mynd i’r afael â chwestiynau megis: Faint fyddai adnewyddu Trident yn costio mewn gwirionedd? Beth fyddai effeithiau peidio ag adnewyddu Trident? Ydy arfau niwclear yn wir wedi’n cadw ni’n ddiogel ers diwedd yr Ail Ryfel Byd? Ydy Trident yn gyfreithlon hyd yn oed, o dan Gyfraith Ryngwladol?

Mae gan Timmon Wallis PhD mewn Astudiaethau Heddwch o Brifysgol Bradford, ac mae wedi gweithio ar brosiectau heddwch yn Chechnya, Croatia, Sri Lanca, Ynysoedd Philippines a De Swdan. Bu’n gyn olygydd Peace News a Chyfarwyddwr y Cyngor Heddwch Cenedlaethol. Mae’n gweithio ar hyn o bryd i Quaker Peace and Social Witness.

Cynhelir y lansiad a’r drafodaeth ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, rhwng 7:00-8:30yp ddydd Mawrth 24 Mai 2016.  Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd, y gyfadran, a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gynnes i’r digwyddiad.