Sesiynau am ddim i leddfu straen arholiadau
10 Mai 2016
Sesiynau ioga, Insanity, Zumba a nofio rhad ac am ddim...dim ond rhai o'r ffyrdd mae’r Brifysgol yn helpu myfyrwyr i daclo straen arholiadau'r haf a hynny fel rhan o'i hymrwymiad i gefnogi lles corfforol a meddyliol y myfyrwyr.
Mae Canolfan Chwaraeon y Brifysgol mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr yn cynnig sesiynau ‘chwalu straen arholiadau’ am ddim i fyfyrwyr yn ystod y cyfnod arholiadau ac astudio a hynny tan 31ain o Fai. Cefnogir y sesiynau hyn drwy Gronfa Aber, rhaglen ar gyfer alumni, rhieni, staff, myfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol sy’n cefnogi prosiectau sy'n gwella profiad a datblygiad myfyrwyr yn uniongyrchol yn ogystal â chyfraniadau hael o Ddigwyddiad Cyn-fyfyrwyr yn Llundain ym mis Rhagfyr 2015 i ddathlu Diwrnod Sylfaenwyr y Brifysgol.
Meddai Darren Hathaway, Rheolwr Cyffredinol y Ganolfan Chwaraeon: "Rydym yn falch iawn o gynnig y sesiynau chwalu straen rhad ac am ddim hyn i'n myfyrwyr yn ystod cyfnod yr arholiadau ac adolygu. Rydym yn gobeithio bod y dosbarthiadau’n cynnig hafan i fyfyrwyr i fedru ymlacio ac yn ffordd o leddfu ychydig ar straen yr arholiadau."
Ychwanegodd Lauren Marks, Swyddog Addysg Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Dw i’n falch gweld y fath gynnig gwych gan y Ganolfan Chwaraeon yn ystod cyfnod yr arholiadau, gydag amrywiaeth ardderchog o ddosbarthiadau ar gael. Gall y cyfnod hwn fod yn amser anodd i fyfyrwyr ac mae dosbarthiadau fel hyn yn cynnig egwyl o adolygu ac arholiadau . Mae Undeb y Myfyrwyr yn annog myfyrwyr i roi cynnig ar rywbeth a chymryd seibiant o’u hamserlen adolygu brysur.
Mae amserlen lawn o’r gweithgareddau i’w gweld yma.