Podlediad arbennig yn trafod Etholiad Cynulliad Cenedlaethol 2016
Logo Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
04 Mai 2016
Ar drothwy pumed etholiad i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae arbenigwyr o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth wedi recordio podeldiad arbennig sy'n trafod sut fath o ymgyrch a welwyd dros yr wythnosau diwethaf, ac yn ystyried beth yw'r rhagolygon ar gyfer y pleidiau gwleidyddol.
Ymhlith y prif gwestiynau a drafodir yn y podlediad mae:
A fydd y Blaid Lafur yn ennill digon o seddi i sicrhau mwyafrif yn y Cynulliad ar ôl yr etholiad?
Ai Plaid Cymru neu'r Ceidwadwyr sy'n debygol o fod yr ail blaid fwyaf yn y Cynulliad wedi'r etholiad?
A fyddwn yn gweld UKIP yn ennill ei seddi cyntaf yn y Cynulliad?
A beth am y rhagolygon ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd?
Mae'r podlediad yn cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth: Catrin Wyn Edwards, Matthew Rees, Dyfan Powel a Huw Lewis.
Meddai Huw Lewis, Cyfarwyddwr dros-dro Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru:
'Yfory cynhelir y pumed etholiad i'r Cynulliad Cenedlaethol. Er gwaetha͛r ffaith bod y refferendwm ar berthynas y Deyrnas Gyfunol âr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn gysgod dros lawer o'r ymgyrch, mae’r pleidiau yng Nghymru wedi cyhoeddi͛ maniffestos, eu harweinwyr wedi cynnal cyfres o ddadleuon teledu, a’u hymgeiswyr wedi bod wrthi'n canfasio'n ddygn ar draws y wlad.
“A ninnau bellach ar drothwy dydd y bleidlais, ceir yn y podlediad hwn drafodaeth o themâu pwysig megis natur yr ymgyrchu a welwyd gan y pleidiau, perfformiad eu harweinwyr, a hefyd natur y canlyniadau posib a'u holygiadau i bwy fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.'
Cafodd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru (SGC) ei sefydlu fel canolfan ymchwil o fewn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1997. Profodd yn fenter lwyddiannus dros ben. Bellach caiff SGC ei chydnabod fel canolfan ragoriaeth ar gyfer astudio gwleidyddiaeth Cymru ac fe’i hadnabyddir yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil bwysig ar ranbartholdeb gwleidyddol a chenedlaetholdeb is-wladwriaeth.
Mae SGC wedi sefydlu proffil cryf o fewn Cymru a thu hwnt. Daeth yn adnabyddus o fewn y cyfryngau newyddion, o fewn y gymuned bolisi yng Nghymru a Llundain a gan y gymuned academaidd, fel canolfan arbenigedd ar wleidyddiaeth a llywodraeth ddatganoledig.
https://www.aber.ac.uk/cy/interpol/research/research-centres-and-institutes/iwp/