Yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn ennill Adran y Flwyddyn
Enillwyr Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes. Credyd llun: Alex Stuart (AJFS Photography).
03 Mai 2016
Yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes a gafodd ei choroni’n Adran y Flwyddyn yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyhoeddwyd enillwyr un ar ddeg o wobrau, a enwebwyd gan fyfyrwyr, yn ystod seremoni ddisglair a gynhaliwyd ym Medrus ddydd Gwener diwethaf.
Anrhydeddwyd darlithwyr, staff cymorth a chynrychiolwyr myfyrwyr yn ystod y seremoni wobrwyo flynyddol a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr, gyda chefnogaeth y Brifysgol. Y wobr a chwenychir fwyaf yw gwobr Adran y Flwyddyn ac eleni fe’i dyfarnwyd i’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Dywedodd Elizabeth Titley, myfyriwr uwchraddedig yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes: “Ethos yr adran gyfan yw sicrhau bod pob myfyriwr yn llwyddo – yn academaidd, ac yn bersonol. Ceir safon uchel iawn o ddysgu yn yr adran; tiwtoriaid personol rhagorol sy’n rhoi adborth defnyddiol a manwl; ymroddiad i wneud pob myfyriwr yn fwy cyflogadwy; a thîm gwych o staff cynorthwyol.”
Meddai’r Is-Ganghellor Gweithredol, Yr Athro John Grattan: “Llongyfarchiadau i holl enillwyr y seremoni eleni. Mae Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr bellach yn eu pumed flwyddyn, ac yn un o uchafbwyntiau calendr y Brifysgol. Mae’r gwobrau’n gyfle i gymeradwyo rhagoriaeth ac i ddathlu cyraeddiadau rhai o’r bobl dawnus a chydwybodol sydd yn gwneud mwy nag y gofynnir ohonynt wrth gefnogi, dysgu ac ysbrydoli ein myfyrwyr.”
Dyma fanylion enillwyr y gwobrau eraill:
Cynrychiolydd Myfyrwyr y Flwyddyn
Enillydd: Adrian Mironas, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)
Meddai Hazel Davey, a enwebodd Adrian am y wobr: “Mae Adrian yn aelod brwd o’r adran; bu’n ei gwasanaethu ers tro byd ac y mae bob amser yn barod i gerdded yr ail filltir. Ni fyddai’r Rhaglen Cyfnewid Gwybodaeth dan arweiniad myfyrwyr, sy’n rhoi myfyrwyr mewn sefyllfa i gynorthwyo ei gilydd yn IBERS, wedi bod yn bosibl heb ei weledigaeth a’i frwdfrydedd.”
Gwobr Rhagoriaeth wrth Ddysgu â chymorth Technoleg
Enillydd: Rolf Gohm, Adran Mathemateg
Wrth enwebu Rolf, dywedodd y myfyriwr Daniel Grant: “Mae Rolf wedi addasu ei ddulliau dysgu traddodiadol, gan wneud defnydd da o’r adnoddau dysgu newydd sydd ar gael. Mae ei ddefnydd o dechnoleg wedi gwella’r profiad dysgu i bawb.”
Gwobr Athro Uwchraddedig
Enillydd: David Fazakerley, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Dywedodd Adrian Krzyzanowski, y myfyriwr a enwebodd David: “Mae David yn un o’r athrawon mwyaf caredig, cynorthwyol ac amyneddgar i mi ei gael erioed. Cafodd ddylanwad arbennig o gadarnhaol ar fy mhrofiad fel myfyriwr a’r cynnydd a wneuthum yn fy astudiaethau.”
Staff Cymorth y Flwyddyn
Enillydd: Margaret Ames, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Meddai Laura Kipp, y myfyriwr a enwebodd Margaret am y wobr: “Mae Mags yn ddynes anghyffredin a dylid cydnabod a chymeradwyo’n swyddogol ei gwaith yn Swyddog Lles Myfyrwyr. Mae hi’n gyfeillgar, yn agored, yn agos-atoch ac yn barod iawn i helpu. Mae hi’n rhoi gwasanaeth eithriadol i’r adran a’r brifysgol trwy ei charedigrwydd a’i gofal.”
Rhagori mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg
Enillydd: Lucy Taylor, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Wrth enwebu Lucy am y wobr, dywedodd Jonathan Davies: “Mae Lucy wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu seminarau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r rheiny yn seminarau sy’n ysbrydoli ac yn lle gwych i drafod y pynciau yn Gymraeg. Mae Lucy wedi dysgu’r Gymraeg ac mae ei meistrolaeth o’r iaith yn eithriadol.”
Goruchwyliwr y Flwyddyn (Uwchraddedig)
Enillydd: Dr. Steve Atherton, Yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
Meddai Elizabeth Titley, a enwebodd Steve am y wobr: “Ni allwn ddymuno gwell goruchwyliwr ar gyfer fy ngradd uwchraddedig. Yn ogystal â chynnig cefnogaeth academaidd anhygoel, mae Steve yn gwneud llawer mwy na’r gofyn ac yn darparu gofal personol a bugeiliol bob awr o’r dydd.”
Goruchwyliwr y Flwyddyn (Israddedig)
Enillydd: Jo Hamilton, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Dywedodd Melanie Moore, a enwebodd Jo: “Rwyf wedi dysgu a datblygu cymaint oherwydd mai Jo sy’n goruchwylio fy nhraethawd estynedig. Mae hi’n un y gallaf edrych i fyny ati fel mentor ac yn un y gallaf anelu i fod yn debyg iddi. Bu’n fraint gweithio gyda hi.”
Tiwtor Personol y Flwyddyn
Enillydd: Susan Chapman, Yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
Enwebwyd Susan gan fyfyriwr hŷn, Amy Morris, a ddywedodd: “Rwy’ mor falch ac mor ddiolchgar fod yr adran wedi dewis Dr Chapman yn diwtor personol arnaf. Mae hi’n groesawgar, mae’n hawdd sgwrsio â hi, mae hi’n eich annog a’ch cefnogi, ac yn driw iawn i’w myfyrwyr a’u hastudiaethau.”
Cyfraniad Eithriadol i Fywyd Myfyrwyr
Enillydd: Paul Kenton, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Dywedodd y myfyriwr a enwebodd Paul: “ Mae Paul yn dangos gwir angerdd a brwdfrydedd at ei bwnc, ac yn defnyddio dulliau amrywiol gwych wrth ddysgu. Mae e’n berson gonest, caredig, diffuant a gofalgar, ac mae ei agwedd llawn cydymdeimlad tuag at ei fyfyrwyr yn gymeradwy. Ef yw un o arwyr anhysbys y byd addysg, ac mae’n aelod o staff a fydd yn gwneud argraff barhaus ar fyfyrwyr dro ar ôl tro.”
Gwobr Addysgu Rhagorol
Enillydd: Neil Taylor, Adran Cyfrifiadureg
Meddai’r enwebydd, Josh Tumath: “Mae Neil yn ddarlithydd gweithgar, angerddol, gofalgar a brwd. Mae ei waith dysgu yn greadigol, ac mae e’n newid ac yn gwella ei fodiwlau o hyd. Mae bob amser yn barod i roi o’i amser i’w fyfyrwyr, ac yn gwneud llawer o ymdrech wrth ymateb i aseiniadau.”
AU14816