Myfyrwyr IBERS yn cynorthwyo gyda gwaith i wella llwybrau
Myfyrwyr IBERS yn cynorthwyo gorffen y rhan terfynol o’r o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT).
27 Ebrill 2016
Mae’r rhan terfynol o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) ar gyfer 2015/16 wedi cael ei gwblhau yn Llangeitho, gyda help myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu arian fel rhan o’r CGHT dros nifer o flynyddoedd, sydd er budd defnyddwyr Hawliau Tramwy, gyda’r nôd o wella mynediad dros Gymru.
Cafodd y gwaith ei wneud gan Gyngor Sir Ceredigion a myfyrwyr o gwrs Rheoli Cefn Gwlad Prifysgol Aberystwyth. Gwnaeth 25 myfyrwyr elwa o brofiad gwaith gwerthfawr dros pedwar diwrnod, a cafodd y myfyrwyr eu goruchwylio gan Geoff Oldrid a Ben Harper o’r Brifysgol.
Dywedodd Russell Hughes-Pickering, Pennaeth yr Economi a Pherfformiad gyda Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r gwaith yma yn dilyn ymlaen o’r gwaith gwella llwybrau sydd eisoes wedi ei gwblhau gan Gyngor Sir Ceredigion yn 2005; mae dau bont newydd wedi eu creu a gatiau wedi ei adeiladu lle oedd camfâu, sydd yn gwneud y llwybr yn fwy hygyrch i gerddwyr o bob oedran a medr.”
Ychwanegodd: “Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r tirfeddianwyr Mr. Harold Morris, Meidrym a Mr. Phil Fernandez, Glynissa am eu cydweithrediad i sicrhau fod y gwaith yma yn mynd ymlaen ar amser, er gwaethaf amodau tir gwael ar y pryd.”
Mae na ddewis o deithiau cylchol ar gael o gwmpas y pentref, gan gynnwys llwybr dau milltir a naw milltir sydd yn cynnwys y llwybr newydd. Gobeithir y bydd y gwelliannau yma yn denu mwy o gerddwyr ac ymwelwyr i’r ardal a hefyd y gymuned lleol.
Mae Llangeithio yn un o’r pentrefi diwethaf yng Ngheredigion sydd a siop, caffi a tafarn yn y pentref o hyd, ac yn eistedd ar lannau’r Afon Aeron. Mae’r pentref yn adnabyddus am ei gyswllt gyda’r pregethwr Methodist adnabyddus Daniel Rowland, a gafodd ei eni yn Nantcwnllw yn 1713. Mae’r pentref wedi bod yn dyst i nifer o ddiwygiadau crefyddol, gyda’r un mwyaf pwerus yn 1762.