Datgelu deg llais newydd o Ewrop

Yr awdur arobryn o Malta Clare Azzopardi, un o’r deg llenor y bydd eu gwaith yn cael ei hyrwyddo mewn cyfres o ddigwyddiadau byw a digidol ar draws yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o Ewrop Lenyddol Fyw

Yr awdur arobryn o Malta Clare Azzopardi, un o’r deg llenor y bydd eu gwaith yn cael ei hyrwyddo mewn cyfres o ddigwyddiadau byw a digidol ar draws yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o Ewrop Lenyddol Fyw

14 Ebrill 2016

Mae deg o’r lleisiau mwyaf diddorol sy’n gweithio yn Ewrop heddiw wedi eu dethol ar gyfer ymgyrch hyrwyddo arbennig gan reithgor rhyngwladol o ganolfannau a gŵyliau llenyddol.

Cafodd y detholiad ei ddatgelu yn ystod Ffair Lyfrau Llundain 2016 Ddydd Iau 14 Ebrill 2016 a hynny fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw sy’n cael ei arwain o Aberystwyth gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.

Mae’r rhestr o ddeg yn cynnwys beirdd a nofelwyr yn ogystal â chyfieithwyr ac awduron ffeithiol sy’n gweithio mewn deg o wledydd gwahanol ar draws Ewrop – yr Alban, Catalonia, Croatia, Hwngari, Gwlad Pwyl, Macedonia, Malta, Norwy, Slofenia a Thwrci.

Dros y deuddeg mis nesaf, bydd gwaith y deg llenor yma yn cael ei hyrwyddo mewn cyfres o ddigwyddiadau byw a digidol ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Caiff casgliad o’u hysgrifau ei gyhoeddi hefyd.

Un o brif amcanion cynllun Deg Llais Newydd o Ewrop yw amlygu cyfoeth ac armywiaeth llenyddiaeth Ewrop ymhob genre ac iaith, gan gynnwys ieithoedd lleiafrifol.

“Caiff ein Lleisiau Newydd gyfle na fyddai o bosib ar gael iddyn nhw mewn cystadlaethau Ewropeaidd a rhyngwladol eraill,” meddai Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau sy’n rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae cyhoeddwyr yn dueddol o edrych am nofelwyr ond nid nofelwyr yn unig sydd yma. Mae’n detholiad yn adlewyrchu amrywiaeth y sîn lenyddol Ewropeaidd; maen nhw’n ysgrifennu mewn ystod o arddulliau ac mae ‘na newyddiadurwyr diwylliannol, cyfieithwyr ac adolygwyr llenyddol yn eu plith.

“Mae rhai ohonyn nhw’n ysgrifennu mewn iaith na fyddai efallai’n cael ei darllen gan reithgor rhyngwladol neu mewn iaith nad sy’n cael ei chydnabod gan eu gwladwriaeth eu hunain, er gwaetha’r ffaith fod miliynau yn ei siarad. Gall eraill fod yn sgwennu mewn iaith sy’n cael ei siarad gan gyn lleied nes cyfyngu’r cylch darllenwyr i rai cannoedd a’r cyfieithwyr llenyddol sydd â’r gallu i drosi eu gwaith i ieithoedd eraill o’r herwydd yn brin.”

“Ond ni ddylai hyn olygu na ddylid clywed eu lleisiau. Mae’n deg llais newydd felly yn gwneud yr un y mae Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau wedi’i wneud ers 15 mlynedd bellach sef mynd â llenyddiaeth ar daith a hynny’n aml o’r llefydd mwyaf annisgwyl,” meddai Alexandra Büchler.

Mae cynllun Deg Llais Newydd o Ewrop yn rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw sy’n cael ei gydlynu o Brifysgol Aberystwyth gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a’i gyd-ariannu gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau: Platfform Ewropeaidd ar gyfer Cyfnewid Llenyddiaeth, Cyfieithu a Thrafod Polisi yw Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau. Cafodd ei sefydlu yn 2001 fel rhan o Sefydliad Mercator ar gyfer y Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae wedi cael cefnogaeth gan raglenni diwylliant yr Undeb Ewropeaidd ers y dechrau.

Ewrop Lenyddol Fyw: Prosiect yw hwn sy’n dwyn ynghyd 16 o ganolfannau a gwˆ yliau llenyddol o bob cwr o Ewrop i feithrin ac annog gweithgaredd sy’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth tirwedd llenyddol Ewrop. Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yw cydlynydd y prosiect sy’n cael ei gyd-ariannu gan Raglen Ewrop Greadigol y Comisiwn Ewropeaidd gyda chefnogaeth gan Brifysgol Aberystwyth, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru drwy Swyddfa Ewrop Greadigol y DU - Cymru.

10 Llais Newydd o Ewrop – Bywgraffiadau

1. Bardd a chyfieithydd yw Juana Adcock sydd wedi byw yn yr Alban ers 2009 ac sy’n gweithio drwy gyfrwng Saesneg a Sbaeneg. Fe’i ganed yn Mexico yn 1982 a natur trais yn y wlad honno oedd testun ei llyfr cyntaf Manca. Yn ôl beirniad blaenllaw cylchgrawn Reforma, Sergio González Rodríguez, hon oedd un o’r cyfrolau barddoniaeth orau i’w chyhoeddi yn 2014. Ar hyn o bryd, mae Adcock yn bwrw prentisiaeth gyda Liz Lochhead fel rhan o gynllun prentisiaeth barddoniaeth Clydebuilt.

2. Bardd, nofelydd, cyfieithydd, beirniad llenyddol a golygydd cylchgrawn cynorthwyol yw Bruno Vieira Amaral a anwyd ym Mhortiwgal yn 1982. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf As Primeiras Coisas (Y Pethau Blaenorol) yn 2013 gan ennill pedair o brif wobrau llenyddol y wlad – gwobr Llyfr y Flwyddyn 2014 gan Time Out Lisboa; Gwobr Lenyddol Fernando Namora 2013, Gwobr Naratif PEN 2013 a Gwobr José Saramago 2015.

3. Mae Clare Azzopardi yn awdur arobryn sy’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion. Mae eu gwaith yn cynnwys cerddi, dramau, straeon byrrion i oedolion, llyfrau llun i ddarllenwyr ifanc a nofelau byr i blant hwˆ n ac oedolion ifanc. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrrion Il-Linja l-Hadra (Y Llinell Werdd) yn 2006 ac mae’n gweithio ar hyn o bryd ar ei nofel gyntaf. Fe’i ganed ym Malta yn 1977 ac mae’n darlithio ar lenyddiaeth y wlad yng Ngholeg Iau Prifysgol Malta.

4. Awdur tri chasgliad o straeon byrrion yw Rumena Bužarovska – Cˇkrtki (Scribbles, Ili-ili, 2007), Osmica (Dant Helbul, Blesok, 2010) a Mojot maž (Fy Ngwˆ r, Blesok, 2014; Ili-ili, 2015). Mae’n cyfieithu llenyddiaeth o Saesneg i Facadoneg ac mae ei chyfieithiadau yn cynnwys Lewis Carroll (Through the Looking Glass), J.M. Coetzee (The Life and Times of Michael K), Truman Capote (In Cold Blood) a Richard Gwyn (The Colour of a Dog Running Away). Mae’n Athro Cynorthwyol yn Adran Llenyddiaeth America ym Mhrifysgol Skopje yng Ngwladwriaeth Macedonia, y wlad lle cafodd ei geni yn 1981.

5. Anthropolegydd cymdeithasol o Norwy yw Erika Fatland (1983). Fe gyhoeddodd ei llyfr cyntaf yn 2009 – llyfr i blant o’r enw Foreldrekrigen (Rhieni’n Rhyfela). Yn 2011, fe gyhoeddodd ei llyfr ffeithiol cyntaf Englebyen (Pentre’r Angylion) am yr ymosodiad terfysgol ar Beslan. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe gyhoeddodd lyfr ffeithiol arall, Året uten sommer (Y Flwyddyn Heb Haf). Y tro hwn, yr ymosodiadau gan Anders Breivik yn Norwy oedd y testun. Llyfr sy’n mynd â’r darllenydd ar daith drwy Kazakhstan, Kyrgyzstan, Tajikistan, Turkmenistan ac Uzbekistan yw ei chyhoeddiad diweddaraf Sovjetistan a enillodd Wobr Ffeithiol Llyfrwerthwyr Norwy 2015. Mae Fatland yn siarad Saesneg, Ffrangeg, Rwseg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg.

6. Newyddiadurwr ac awdur arobryn o Catalonia yw Albert Forns, a anwyd yn Granollers yn 1982. Mae’n gweithio i gylchgrawn Time Out Barcelona, i bapur newydd ARA ac i ganolfan ddiwylliannol CCCB. Mae wedi cyhoeddi dwy nofel – Jambalaia (Anagrama, 2016) a enillodd Wobr Anagrama Prize, ac Albert Serra (la novel·la, no el cineasta) (Empúries, 2013) a enillodd Wobr Documenta. Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth Ultracolors (LaBreu Edicions, 2013), a ysbrydolwyd gan waith arlunwyr cyfoes. Mae’n ysgrifennu’n gyson am fyd y theatr, llenyddiaeth a’r Celfyddydau gweledol yn ei flog personol yn ogystal ag ar gyfer cylchgrawn Time Out a chylchgrawn digidol Núvol.com.

7. Mae Anja Golob (1976) yn byw yn Ljubljana, Slofenia, lle mae’n gweithio fel bardd, awdur, cyfieithydd a dramaturge ar gyfer perfformiadau celf a dawns cyfoes. Hyd yma, mae wedi cyhoeddi tri chasgliad o farddoniaeth - dau yn iaith Slofenia ac un cyfieithiad Almaeneg. Mae ei cherddi a’i hysgrifau eraill hefyd wedi cael eu cyhoeddi mewn nifer o glychgronnau ynghyd â rhyw 750 o adolygiadau o berfformiadau theatr. Ym mis Hydref 2013, fe sefydlodd gwmni cyhoeddi bach o’r enw VigeVageKnjige a hi yw’r prif olygydd. www.anjagolob.org

8. Bardd yw Árpád Kollár a anwyd yn Zenta, Serbia, yn 1980. Mae bellach yn byw yn Hwngari ac yn gweithio fel hanesydd llenyddol ym Mhrifysgol Szeged. Mae hefyd yn Llywydd Cymdeithas Awduron Ifanc Hwngari (FISZ). Mae Kollár wedi cyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth - Például a Madzag (Er Enghraifft Y Llinyn) a enillodd sawl gwobr ar gyfer llyfr cyntaf; Nem Szarajevóban (Nid yn Sarajevo) a llyfr o farddoniaeth i blant Milyen madár (Pa Aderyn) a gafodd ei ddewis yn Llyfr Plant y Flwyddyn yn Hwngari yn 2015.

9. Nofelydd, bardd a chyfieithydd yw Ciwanmerd Kulek (nom de plume Civanmerd Eroglu). Fe’i ganwyd yn 1984 mewn ardal Cwrdaidd yn nwyrain Twrci ac mae bellach yn byw yn Istanbul lle mae’n gweithio fel athro ieithoedd. Mae wedi ysgrifennu pedair nofel yn yr iaith Gwrdaidd: Nameyek ji Xwedê re (Llythyr At Dduw, 2007) Otobês (Y Bws, 2010) Zarokên Ber Çêm (Plant Ar Lan Afon, 2012) a Defterên Perrîdankan (Llyfrau Nodiadau’r Pili Pala, 2014), yn ogystal â nofela Çar Yek (Un Rhan o Bedair, 2015) a chasgliad o farddoniaeth Strana Sev û Rojekê (Cân Un Noson ac Un Diwrnod, 2016). Mae Kulek hefyd wedi cyfieithu nifer o weithiau llenyddol o Saesneg, Sbaeneg a Thwrceg i’r iaith Gwrdaidd gan gynnwys J. M. Coetzee (Disgrace), William Faulkner (As I Lay Dying), James Joyce (Dubliners) a Gabriel García Márquez (Crónica de una muerte anunciada).

10. Mae Zoran Pilic´ yn nofelydd ac awdur straeon byrrion a anwyd yn Zagreb yn 1966. Fe addaswyd ei gasgliad cyntaf o straeon byrrion Doggiestyle 2007) yn ddrama lwyfan Sex, laži i jedan andeo (Rhyw, Celwydd ac Un Angel) a gafodd ei pherfformio yn Academi Drama Zagreb yn 2009. Fe gyrhaeddodd ei nofel gyntaf Davli od papira (Diafoliaid Papur) y rhestr fer ar gyfer un o brif wobrau llenyddol Croatia y 'Jutarnji list' ac fe gafodd ei enwi yn un o nofelau gorau 2012 gan Weinyddiaeth Diwylliant Croatia. Fe ddewisodd y Weinyddiaeth gasgliad o straeon byrrion Pilic´ Nema slonova u Meksiku (Nid Oes Eliffantod yn Mexico) fel un o lyfrau gorau’r wlad eto yn 2014. Fe enillodd ei stori fer Kad su Divovi hodali zemljom (Pan Fu Cewri’n Rhodio’r Ddaear) Wobr Gŵyl Ewropeaidd y Stori Fer yn 2015. Mae hefyd yn adolygu llyfrau ac yn cyhoeddi ffuglen ar wefan Booksa.hr.

AU13716