Datblygu a Chysylltiadau Alumni ar rhestr fer Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth y Times Higher Education

Y cyn-fyfyriwr Mitch Robinson, a enillodd Wobr Cyrhaeddiad Proffesiynol yng Ngwobrau Addysg Cyn-fyfyrwyr y Cyngor Prydeinig 2015 yn yr Unol Daleithiau, gyda Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Aberystwyth

Y cyn-fyfyriwr Mitch Robinson, a enillodd Wobr Cyrhaeddiad Proffesiynol yng Ngwobrau Addysg Cyn-fyfyrwyr y Cyngor Prydeinig 2015 yn yr Unol Daleithiau, gyda Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Aberystwyth

08 Ebrill 2016

Mae tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer Gwobr Arweinyddiaeth a Rheolaeth y Times Higher Education. 

Mae Aberystwyth yn un o bum prifysgol sydd ar restr fer y categori Tîm Datblygu/Cysylltiadau Alumni Neulltiol, ynghyd â phrifysgolion CaerlÅ·r, Manceinion, Nottingham a Warwick.

Bellach, mae’r gwobrau, sy’n cael eu hadnabod fel y THELMAs yn eu hwythfed flwyddyn, yn dathlu enghreifftiau gorau o arloesedd, gwaith tîm a menter mewn addysg uwch.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth: "Adeiladwyd Prifysgol Aberystwyth ar gefnogaeth hael y gymuned leol a chymwynaswyr o bedwar ban byd. Mae'r traddodiad hwn yn parhau hyd heddiw, gyda myfyrwyr yn elwa yn uniongyrchol o ddyngarwch cyn-fyfyrwyr, sydd wedi elwa eu hunain o haelioni cenedlaethau blaenorol. Mae cynnal cysylltiadau gweithredol gyda chyn-fyfyrwyr a rhannu yn eu llwyddiannau yn rhan hanfodol o waith prifysgol fodern flaengar wrth i ni ddatblygu ein profiad myfyrwyr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rydym yn llongyfarch ein cydweithwyr yn DARO ar eu gwaith yn hwyluso hyn ac ar gael ei henwebu ar gyfer hyn wobr."

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth wedi goruchwylio

• sefydlu dwy Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr rhyngwladol yn Efrog Newydd a Washington, y cyntaf ers 1989;

• sicrhau rhodd unigol fwyaf y Brifysgol gan roddwr byw, £500k tuag at galedi myfyrwyr. Dyfarnwyd Gwobr Dyngarwch a statws Partneriaeth Dyngarwch y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i’r rhoddwr a’r Brifysgol;

• chwarae rôl arweiniol allweddol yn natblygiad y prosiect £20 miliwn i drawsnewid adeilad eiconig y Brifysgol, yr Hen Goleg, i fod yn adnodd a rennir gan y Brifysgol a'r cyhoedd, gan gynnwys cyflwyno cais gwerth £10 miliwn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri

• sefydlu strategaeth apêl cyfalaf o £5.5 miliwn ar gyfer yr Hen Goleg, y cynlluniau codi arian mwyaf uchelgeisiol ers sefydlu’r Brifysgol ym 1872.

Bu'r tîm hefyd yn cefnogi cyflwyno enwebiad buddugol Mitch Robinson, cyfreithiwr hawliau dynol rhyngwladol, ar gyfer Gwobr Addysg agoriadol y Cyngor Prydeinig am Gyflawniad Proffesiynol (UDA) a chydlynu ymweliad proffil uchel i'r Brifysgol gan Mitch pan fu’n rhannu ei brofiadau gyda myfyrwyr presennol.

Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr y tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Rwyf wrth fy modd fod yr adran a'r tîm wedi cael eu cydnabod. Rwy'n gweld rhestr fer hon fel cydnabyddiaeth bwysig o'n hymrwymiad a’m gallu i weithio mewn partneriaeth â chyn-fyfyrwyr a chefnogwyr a gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i hybu uchelgais y Brifysgol a gwneud gwahaniaeth hirhoedlog i fyfyrwyr cyfredol a rhai'r dyfodol a chymuned ehangach y Brifysgol. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r gweithgareddau a amlygwyd gennym yn y wobr am eu cyfraniad.

"Mae'r newyddion yn arbennig o galonogol o ystyried ein cynlluniau i adeiladu ar gyfraniad gwirfoddol cyn-fyfyrwyr mewn meysydd allweddol megis gyrfaoedd, recriwtio a chefnogaeth ryngwladol, ac yn sgìl ein cynlluniau i gynyddu incwm codi arian drwy Gronfa Aberystwyth, rhoddion mawr, cymynroddion yn ogystal ag ymddiriedolaethau. Mae amseriad y rhestr fer hon yn arbennig o galonogol o ystyried ein cynlluniau i lansio ymgyrch godi arian cyfalaf mawr yn ddiweddarach eleni i alluogi'r Brifysgol a’n cymuned i gyflawni’r weledigaeth yr ydym  yn ei rhannu ar gyfer Bywyd Newydd i Hen Goleg. "

Bydd enillwyr THELMAS 2016 yn cael eu datgelu mewn noson wobrwyo gala yng ngwesty’r Grosvenor House, Park Lane, Llundain, ddydd Iau 23 Mehefin, 2016.

AU13016