Awdur arobryn yn annerch yn Aber
Patrick McGuinness
06 Ebrill 2016
Bydd yr awdur arobryn Patrick McGuinness yn siarad am ei waith mewn darlith gyhoeddus yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, am 11.30 Ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2016.
Daw teitl y ddarlith o gofiant yr awdur Other People’s Countries - llyfr sy’n edrych yn ôl ar y cyfnodau a dreuliodd fel plentyn yn nhref Bouillon yng Ngwlad Belg ac a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn (Saesneg) yn 2015.
Dyma’r ail gyhoeddiad gan Patrick McGuinness i gipio gwobr Llyfr y Flwyddyn. Roedd hefyd yn fuddugol yn 2012 gyda’i nofel The Last Hundred Days sy’n ymdrin â dyddiau olaf teyrnasiad Ceauşescu yn Bucharest yn 1989.
Yn ei ddarlith agored yn Aberystwyth 16 Ebrill, bydd Patrick McGuinness yn tynnu ar ei brofiadau i ystyried ymhellach y berthynas rhwng llenyddiaeth, hunaniaeth a diwylliant.
Mae ei araith yn rhan o fforwm arbennig ar ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer llenyddiaeth rhyngwladol sy’n cael ei drefnu yn y dref gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF) – platfform Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid a chyfieithu llenyddiaeth sy’n rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae disgwyl i lenorion a churadon ynghyd â chyhoeddwyr, cyfieithwyr a chynrychiolwyr eraill o’r diwydiant o Ewrop ac Asia fynychu’r fforwm.
“Rydym wrth ein bodd bod sgwennwr o safon Patrick McGuinness yn gallu bod yma gyda ni yn Aberystwyth ar gyfer y Fforwm sy’n un o uchelbwyntiau Ewrop Lenyddol Fyw - prosiect sy’n cael ei gydlynu gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau fel rhan o Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Cyfarwyddwr LAF, Alexandra Büchler.
“Dros gyfnod o ddeuddydd, byddwn ni’n trin a thrafod datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer cyfieithiadau llenyddol a thrwy agor darlith Patrick i’r cyhoedd, ein gobaith yw estyn allan i’r gymuned ehangach.”
Mae mynediad i’r ddarlith yn rhad ac am ddim, diolch i nawdd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
“Fel Cymdeithas, pleser a braint yw cael cefnogi darlith gan awdur mor uchel ei barch â Patrick McGuinness. Mae croeso i bawb ymuno gyda ni i ar gyfer y ddarlith a fydd heb os yn ddifyr, yn ddeallus ac yn ddiddorol – darlith ag iddi arwyddocàd arbennig i ni fel cenedl fach,” meddai Ned Thomas, Llywydd Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth ac un o Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig.
Mae Patrick McGuinness yn Athro Ffrangeg a Llenyddiaeth Cymharol ym Mhrifysgol Rhydychen, ac mae’n byw yng Nghaernarfon yng Ngwynedd.
Trefnir y Fforwm Llenyddiaeth Rhyngwladol ar Ddatblygu Cynulledifaoedd gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw sy’n cael ei gefnogi gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru trwy Swyddfa Ewrop Greadigol y DG – Cymru.
Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau: Platfform Ewropeaidd ar gyfer Cyfnewid Llenyddiaeth, Cyfieithu a Thrafod Polisi yw Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau. Cafodd ei sefydlu yn 2001 fel rhan o Sefydliad Mercator ar gyfer y Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae wedi cael cefnogaeth gan raglenni diwylliant yr Undeb Ewropeaidd ers y dechrau (www.lit-across-frontiers.org).
Ewrop Lenyddol Fyw: Prosiect yw hwn sy’n dwyn ynghyd 16 o ganolfannau a gwyliau llenyddol o bob cwr o Ewrop i feithrin ac annog gweithgaredd sy’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth tirwedd llenyddol Ewrop. Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yw cydlynydd y prosiect sy’n cael ei ariannu gan Raglen Ewrop Greadigol y Comisiwn Ewropeaidd, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru drwy Swyddfa Ewrop Greadigol y DG - Cymru.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru: Elusen addysgol draws-ddisgyblaethol yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Fe’i sefydlwyd yn 2010, a gall fanteisio ar gryfderau sylweddol bron i 400 o Gymrodyr nodedig yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Mae’n cynnig budd i’r cyhoedd gan gynnwys cyngor ysgolheigaidd arbenigol ar amrywiaeth o faterion polisi cyhoeddus yn ymwneud â gwyddoniaeth, peirianneg, meddygaeth, y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.
AU12516