Dathlu rhagoriaeth mewn dysgu

Chwith i’r Dde: Chris Loftus, Mary Jacob, Dr Hannah Dee, Dr David Whitworth, Dr Neil McEwan, Dr Marco Arkesteijn, Dr David Wilcockson ac Alison Pierse gyda’r Is-Ganghellor Dros Dro, yr Athro John Grattan

Chwith i’r Dde: Chris Loftus, Mary Jacob, Dr Hannah Dee, Dr David Whitworth, Dr Neil McEwan, Dr Marco Arkesteijn, Dr David Wilcockson ac Alison Pierse gyda’r Is-Ganghellor Dros Dro, yr Athro John Grattan

04 Ebrill 2016

Mae tri modiwl dysgu wedi cael eu canmol yn fawr gan banel beirniadu Gwobrau Cwrs Eithriadol Prifysgol Aberystwyth 2015-16.

Y modiwl uchaf ei safle oedd ‘Developing Internet-Based Application’, sy’n cael ei arwain gan Chris Loftus o’r Adran Gyfrifiadureg.

Cafwyd canmoliaeth uchel hefyd i’r modiwl 'Computer Vision’ sy’n cael ei arwain gan Dr Hannah Dee o’r Adran Gyfrifiadureg, a ‘Advances in Invertebrate Zoology’ sy’n cael ei arwain gan Dr David Wilcockson o IBERS.

Sefydlwyd y gwobrau blynyddol gan Grŵp E-ddysgu Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol, sy'n cefnogi’r defnydd o dechnoleg er mwyn gwella’r dysgu a’r addysgu. Maent yn gwobrwyo modiwlau sy’n dangos ymarfer rhagorol mewn pedwar maes,: dyluniad cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu a chymorth i ddysgwyr.

Seiliwyd meini prawf y gwobrau ar y rhaglen ryngwladol Blackboard Exemplary Course Programme (ECP). Mae Grŵp E-ddysgu’r Brifysgol yn hyfforddi ymgeiswyr i werthuso pa mor dda mae eu cwrs yn cydymffurfio ag arferion gorau a amlinellir gan Blackboard ECP, ac i wella eu modiwl fel y bo'n briodol.

Cafodd y modiwlau buddugol eu dewis gan banel dienw oedd yn cynnwys staff addysgu a gweinyddol a chynrychiolaeth myfyrwyr.

Dywedodd Chris Loftus, sy'n arwain y modiwl uchaf ei safle yn y Gwobrau Cwrs Eithriadol eleni: “I mi roedd y Gwobrau Cwrs Eithriadol yn ffordd wych i feddwl am ddeunydd fy nghwrs o safbwynt y myfyrwyr. Mae wedi fy nghynorthwyo i ailstrwythuro’n gyfan gwbl y ffordd y mae’r deunydd yn cael ei gyflwyno ar-lein, er mwyn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr ddod o hyd iddo, ac ar ben hynny i ddarparu deunyddiau dysgu cefnogol ychwanegol.”

Yn ogystal, cymeradwywyd tri modiwl arall: y modiwl dysgu o bell ‘Art in Wales: The Welsh Depicted’, sy’n cael ei arwain gan Alison Pierse a Dr Jacqueline Jeynes o'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, ‘Biomechanical Analysis’ sy’n cael arwain gan Dr Marco Arkesteijn yn IBERS, a 'Metabolism'  sy’n cael ei arwain gan Dr David Whitworth a Dr Neil McEwan, hefyd o IBERS.

Dywedodd Mary Jacob o Grŵp E-Ddysgu’r Brifysgol, a sefydlydd y Gwobrau Cwrs Eithriadol: “Rydym wrth ein bodd gyda nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer y gwobrau eleni, ac yn annog yr holl staff addysgu sydd â diddordeb mewn dysgu sut i ddefnyddio'r cyfarwyddyd a gwneud cais am y wobr yn 2016-17 i fynd i wefan Gwobrau Cwrs Eithriadol am fwy o wybodaeth. Y dyddiad cau i wneud cais yw 17 Tachwedd 2016.”

Dywedodd un o feirniaid eleni: “Eleni cawsom fwy o geisiadau nag erioed ar gyfer Gwobrau Cwrs Eithriadol. Mae'n werth nodi bod 80% o'r ceisiadau a dderbyniwyd o’r Gwyddorau. Hoffem yn arbennig annog staff yn y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau i ystyried y cyfarwyddyd, addasu eu modiwlau yn ôl yr angen, a chyflwyno cais yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Is-Ganghellor Dros Dro, yr Athro John Grattan: “Rydym wedi gwneud buddsoddiad gwirioneddol yn yr amgylchedd ddysgu yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydym yn hyrwyddo addysgu sy’n gyffrous, arloesol, deinamig a heriol fel rhan hanfodol o'r hyn a wnawn, ac yn cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth. Mae gennym garfan o ddarlithwyr sy'n awyddus i greu amgylchedd addysgu cyfoethog a chynhyrchu deunyddiau dysgu sydd ymhlith y gorau yn y byd.”

Bydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobrau yn ystod seremonïau graddio'r haf hwn.

AU6516