Gwobr ryngwladol i bartner consortiwm bio a arweinir gan Aberystwyth
Chwith i’r dde: Ymchwilwyr IBERS sy’n gweithio ar becynnu cynaliadwy; Abhishek Somani, Ana Winters, Joe Gallager, Sian Davies, David Bryant, Stephen Taylor, Sreenivas Ravella a David Walker
31 Mawrth 2016
Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain consortiwm "ADMIT BioSuccInnovate", sef un o fentrau Climate-KIC a ariennir gan Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewrop (EIT), ar y cyd â Reverdia a phartneriaid eraill yn Ewrop.
Mae Reverdia, un o'r partneriaid arweiniol yng nghonsortiwm ADMIT Bio-SuccInnovate, wedi ennill 'Partneriaeth Cemegol Bio-Seiliedig y Flwyddyn'.
Derbyniodd y gweithgynhyrchwr asid bio-succinic y Wobr Busnes Bio yn y ‘World Bio Markets 2016’ yn Amsterdam.
Mae Reverdia yn cyfrannu’r dechnoleg Biosuccinium™ gorau o’i bath i helpu i ddatblygu pecynnu bio sydd yn seiliedig ar blastig bioddiraddadwy trwy'r fenter Climate-KIC, trwy archwilio'r defnydd o borthiant lignogelliwlosig sydd ar gael yn lleol.
Cymeradwywyd y prosiect gan Waitrose a'r cynhyrchwyr padelli plastig, Sharpak.
Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol Byd-eang Reverdia Jo Kockelkoren: "Mae'n anrhydedd i dderbyn y wobr hon i’r bartneriaeth ADMIT Bio-SuccInnovate. Fel partner yn y consortiwm a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, mae Reverdia yn dangos sut mae ymagwedd cadwyn gwerth yn datgloi cynnyrch diriaethol a mwy cynaliadwy ar gyfer y defnyddiwr."
Dywedodd David Bryant, arweinydd y prosiect yn IBERS: ”Mae IBERS yn chwarae rhan allweddol yn y prosiect drwy arwain ar wyddoniaeth y planhigion a chydlynu'r gwaith bioburo i gynhyrchu bioblastigau o'r asid sycsidig a geir o siwgrau lignogelliwlosig.
Rydym yn llongyfarch Reverdia ar eu gwobr. Ein penderfyniad oedd cydweithio â ‘r cwmni gan ei fod yn gallu darparu a thrwyddedu Biosuccinium™ o ansawdd uchel, gyda thechnoleg gynaliadwy sydd o'r safon orau o'i bath ac sydd hefyd yn llwyddo i wneud yr arbedion gorau o ran nwyon tŷ gwydr.”
AU11716