Daearyddiaeth yn Aberystwyth yn dringo i’r 100 gorau yn y byd

22 Mawrth 2016

Aberystwyth yw un o’r 100 prifysgol orau yn y byd ar gyfer astudio Daearyddiaeth yn ôl cynghrair pynciau'r QS World University Rankings sydd wedi ei chyhoeddi heddiw, ddydd Mawrth 22 Mawrth.

Mae Daearyddiaeth wedi dringo hyd at 50 safle i’r 100 uchaf, ac yn un o 544 o sefydliadau sydd wedi eu cynnwys.

Mae’n un o bedwar pwnc yn Aberystwyth sydd wedi eu disgrifio fel ‘Elît Byd’ gan QS World University Rankings.

Yn y category hwn hefyd y mae Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol ac  Amaethyddiaeth a Choedwigaeth sydd yn y 150 gorau yn y byd, a Gwyddor yr Amgylchedd sydd yn y 300 uchaf yn y byd.

Bellach yn ei phumed flwyddyn, gwerthuswyd 4,226 o brifysgolion a rhestrwyd 945 o sefydliadau yn y QS World University Rankings yn ôl pwnc.

Dadansoddwyd dros 113 miliwn o ddyfyniadau a briodolwyd, a gwiriwyd darpariaeth 15,530 o raglenni.

Mae’r prifysgolion yn cael eu barnu ar Enw Da Academaidd - gofynnwyd i academyddion ledled y byd ble maent yn credu mai’r gwaith gorau yn cael ei wneud; Enw Da Cyflogwr - pa sefydliadau sy’n cynhyrchu’r graddedigion gorau yn ôl cyflogwyr; Cyfeiriadau fesul Cyfadran a Mynegai ‘H’, sy’n mesur cynhyrchiant ac effaith gwaith ysgolheigion drwy edrych ar y papurau a ddyfynnwyd fwyaf, a’r nifer o ddyfyniadau a dderbyniwyd mewn cyhoeddiadau eraill.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol: "Mae hyn yn newyddion gwych ac yn adlewyrchu parch uchel academyddion ar draws y byd tuag at y gwaith academaidd sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2014 yn gosod Prifysgol Aberystwyth yn y 50 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol am effaith ymchwil, ac mae myfyrwyr sydd yn astudio yma yn elwa o gael eu dysgu gan staff academaidd y mae eu gwaith yn cael ei ystyried o safon ryngwladol."

Dywedodd yr Athro Rhys Jones, Pennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn hapus iawn gyda’r gydnabyddiaeth hon o safon uchel y dysgu a’r ymchwil yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Mae’r canlyniadau’n dangos fod ein hadran yn cymharu’n ffafriol iawn gyda sefydliadau eraill, ac yn ei gwneud yn un o’r llefydd gorau yn y byd i astudio Daearyddiaeth.”

Yn ôl y Times Higher Education World University Rankings 2015-16 dringodd Prifysgol Aberystwyth hyd at 50 o lefydd ac i’r 40ain uchaf o sefydliadau o’r Deyrnas Gyfunol sy’n ymddangos yno.  Mae Aberystwyth hefyd ymysg y 200 uchaf o brifysgolion yn Ewrop a’r 200 prifysgol mwyaf rhyngwladol yn ôl y Times Higher Education World University Rankings.

Mae rhagor o wybodaeth am QS World University Rankings ar gael ar-lein yma.

AU10016