Cydweithio gyda Brasil i ymladd clefyd ‘Tan-Spot’ mewn gwenith
Fferm ger Passo Fundo lle mae amaethyddiaeth fanwl yn cael ei defnyddio: Chwith i’r Dde: R Lucio Jorge. Genei Dalmago, Jan Kim (blaen), Paulo Herrmann, Anyela Camargo-Rodriguez (tu blaen), Gina Garzon Martinez; Anna Christian Albuquerque, Flavio Santana, Sandra Mansur, Luis Mur, Maurício Fernandes, Eduardo Caierão, Paulo Vargas.
21 Mawrth 2016
Mae tîm o wyddonwyr yn IBERS (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio gyda EMBRAPA (Corfforaeth Ymchwil Amaethyddol Brasil) a NIAB (Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol) o’r Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio’r technolegau a’r dulliau delweddu diweddaraf er mwyn adnabod mathau o wenith sy’n medru gwrthsefyll y clefyd Tan-Spot.
Mae’n ofynnol i ffermwyr baratoi ar gyfer hinsawdd sy'n debygol o newid a phatrymau tywydd mwy ansicr a fydd yn cael effaith ar ymddangosiad ac ailymddangosiad clefydau planhigion.
Un clefyd o'r fath yw Tan-Spot sy'n effeithio ar gnydau gwenith ledled y byd, a gan ei fod yn un o’r prif glefydau sy'n effeithio ar gynhyrchu gwenith ym Mrasil a hefyd yn yr Unol Daleithiau, mae’n fygythiad i gynhyrchu yn y DG. O dan yr amodau mwyaf difrifol, gall Tan-Spot leihau cynnyrch gwenith o hyd at 80%.
Arweinir y cydweithio trawsgyfandirol hwn yn gan Dr Anyela Camargo Rodriguez o IBERS a chaiff ei gefnogi gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnolegol a Biolegol) y Deyrnas Gyfunol; ac mae wedi hwyluso ymweliadau cyfnewid gan wyddonwyr o Frasil a’r DG a gweithdy rhyngwladol diweddar yn Embrapa Trigo (cangen o EMBRAPA) a leolir yn Passo Fundo, Brasil.
Arweiniodd y gweithdy hwn at gyfres o ymrwymiadau a fydd yn galluogi cydweithio agosach fyth rhwng EMBRAPA a gwyddonwyr yn y DG, ac mae wedi agor llinell newydd sbon o ymchwil ar y cyd mewn gwenith rhwng llywodraethau Brasil a Chymru.
Dywedodd Dr Camargo-Rodriguez: “Rwy'n falch iawn bod y prosiect hwn yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng gwyddonwyr America Ladin a'r DG er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau sy'n bwysig i'r ddwy ochr. Rwy'n disgwyl i’r cyfnewid hwn fod y cyntaf o lawer.”
Mae'r gwaith hwn yn troi o gwmpas y defnydd o'r Ganolfan Planhigion Ffenomeg Genedlaethol yn IBERS; adnodd sydd ar flaen y gad ac sy'n caniatáu delweddu planhigion gyda chymorth cyfrifiadur i gyflymu datblygiad mathau newydd o gnydau.
Mae prosiect IBERS-EMBRAPA-NIAB yn cynrychioli sut mae Prifysgol Aberystwyth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i broblemau mawr byd-eang.
Dywedodd Dr Flávio Santana, patholegydd planhigion o Embrapa Trigo: “Dim ond ers ychydig fisoedd yr ydym wedi bod yn cydweithio â gwyddonwyr o’r Deyrnas Gyfunol, o Gymru, ond eisoes gwelwyd cynnydd trawiadol. Edrychaf ymlaen at ddatblygu ymhellach y cysylltiadau hyn dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.”
AU11416