Tîm iCub yn ennill gwobr ffotograffiaeth gwyddoniaeth flaenllaw am yr ail flwyddyn yn olynol

'iCub and the tutor' Credit: Sandy Spence

'iCub and the tutor' Credit: Sandy Spence

21 Mawrth 2016

Mae delwedd o robot dynolffurf sy’n dysgu am sut i chwarae oddi wrth blentyn ifanc fel rhan o ymchwil roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill un o brif wobrau ffotograffiaeth gwyddoniaeth y Deyrnas Gyfunol.

'iCub and the tutor' gan Sandy Spence o'r Adran Gyfrifiadureg yw enillydd gwobr 'Pobl' cystadleuaeth ffotograffiaeth Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC).

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i Spence a’i gydweithwyr ennill y wobr.

Yn 2015 cipiwyd y wobr gan 'The Greatest Discovery' a oedd yn dangos y robot dynolffurf, yr iCub, yn 'gwrando' ar fabi Ayesha Jones cyn ei eni.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae merch Ayesha, Caiya, yn ymddangos yn 'iCub and the tutor', yn eistedd wrth y bwrdd ac yn chwarae gyda'r robot i-Cub.

Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ddau lun oedd gwaith Grŵp Roboteg Deallus Prifysgol Aberystwyth sy'n defnyddio’r ffordd y mae plant ifanc yn dysgu am y byd o'u cwmpas i ddatblygu robotiaid dynolffurf.

Yn 2015 dyfarnwyd £560,000 gan yr EPSRC i’r grŵp ar gyfer prosiect ymchwil tair blynedd sy'n gweld y grŵp yn gweithio gyda seicolegwyr datblygiadol i gynorthwyo robotiaid i ddysgu mwy am ffiseg gwrthrychau a sut i ddefnyddio gwrthrychau fel offer.

Esbonia Patricia Shaw, darlithydd mewn Cyfrifiadureg ac aelod o’r Grŵp Roboteg Deallus: "Yn ystod babandod, mae plant yn dysgu o’u profiadau o'r byd o'u cwmpas. Trwy chwarae gyda gwrthrychau maent yn adeiladu dealltwriaeth o'r gwrthrychau a sut i'w defnyddio, ynghyd â chysyniadau am ffiseg sylfaenol y byd, megis sefydlogrwydd gwrthrych.

"Yn y gwaith ymchwil hwn, rydym yn modelu sut mae babanod ifanc yn dysgu ac yn ei gymhwyso i robot dynolffurf. Y nod yw datblygu mecanwaith ar gyfer robotiaid i ddysgu am ffiseg sylfaenol y byd drwy ddeall gwrthrychau. Yn ‘iCub and the tutor’ mae'r robot iCub yn dysgu sut i chwarae oddi wrth y babi."

"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae'n cydnabod y gwaith rhagorol y mae’r tîm yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ei wneud, ac yn cynnig cyfle gwych i rannu gyda phawb yr hyn yr ydym yn gweithio i’w gyflawni."

Cyhoeddwyd enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Gwyddoniaeth yr EPSRC heddiw, Llun 21 o Fawrth.

Roedd pum categori yn y gwobrau eleni: ‘Eureka’, ‘Offer’, ‘Pobl’, ‘Arloesi’, a ‘Rhyfedd a Rhyfeddol’.

Enillydd y brif wobr oedd ‘Microwave ion-trap chip for quantum computation’ gan Diana Prado Lopes Aude Craik a Norbert Linke o Brifysgol Rhydychen.

Daeth yr enillwyr eraill y gystadleuaeth o Brifysgol Caeredin, Prifysgol Caergrawnt a Choleg Imperial Llundain.

Dywedodd barnwr Cystadleuaeth, yr Athro Robert Winston, Athro Gwyddoniaeth a Chymdeithas ac Athro Emeritws Astudiaethau Ffrwythlondeb yng Ngholeg Imperial Llundain: "Mae'n hanfodol i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o ymchwil gwyddoniaeth a pheirianneg, a’r rôl sydd ganddo mewn gwneud darganfyddiadau newydd, datblygu technolegau newydd a gwneud y byd yn lle gwell i bob un ohonom. Mae'r delweddau yma yn rhai sydd wir yn ysbrydoledig ac yn adrodd straeon gwych. Roedd yn bleser go iawn cael cymryd rhan fel beirniad ac rwy'n gobeithio y bydd pobl eisiau cael gwybod mwy. "

Wrth longyfarch yr enillwyr a'r cystadleuwyr, dywedodd yr Athro Philip Nelson, Prif Weithredwr yr EPSRC: "Unwaith eto, mae safon y ceisiadau yn y gystadleuaeth eleni yn dangos natur chwilfrydig, artistig a threiddgar y bobl sy’n derbyn cefnogaeth gan yr EPSRC. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran; gwnaethoch y dasg o feirniadu yn un anodd iawn, ond dymunol.

"Mae'r gystadleuaeth hon yn ein helpu i ymgysylltu gydag academyddion ac mae’r delweddau trawiadol hyn yn ffordd wych o gysylltu â'r cyhoedd yn gyffredinol gydag ymchwil maent yn eu hariannu, ac yn ysbrydoli pawb i gymryd diddordeb mewn gwyddoniaeth a pheirianneg."

Derbyniodd y gystadleuaeth dros 200 o geisiadau gan ymchwilwyr sy'n derbyn cyllid EPSRC.

Y beirniaid oedd:
Martin Keene – Golygydd Lluniau Grŵp - Press Association;
Yr Athro Robert Winston - Athro Gwyddoniaeth a Chymdeithas ac Athro Emeritws Astudiaethau Ffrwythlondeb yng Ngholeg Imperial Llundain
Yr Athro Philip Nelson - Prif Weithredwr EPSRC

Mae’r delweddau  a ddaeth yn gyntaf, ail a thrydydd, ynghyd â disgrifiadau, i gyd ar gael i'w lawr-lwytho o wefan yr EPSRC www.epsrc.ac.uk.

AU11116