Yr Ysgol Gelf yn cynnal arddangosfa o waith gan yr artist Paul Newland

Paul Newland, Thames Capriccio II, dyfrlliw

Paul Newland, Thames Capriccio II, dyfrlliw

17 Mawrth 2016

Bydd arddangosfa o weithiau gan Paul Newland NEAC RWS yn agor yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun 21 Mawrth.

Ganed ac addysgwyd Paul Newland ym maestrefi gogledd orllewin Llundain, ac astudiodd yn Ysgol Gelfyddyd Gain Slade yn Llundain.  Mae ganddo gysylltiad hir ag Aberystwyth.

Mae'r arddangosfa hon o’i waith mewn olew a dyfrlliw yn datgelu ei ddiddordeb mawr gydag ysbryd y lle a ddaw o hyd iddo yn nhirwedd ddinesig De Llundain, a thirwedd Ceredigion.

Mae Paul yn aelod etholedig o’r New English Art Club (NEAC) ac wedi gwasanaethau fel Is Lywydd y Gymdeithas Dyfrlliw Frenhinol (Royal Watercolour Society - RWS) ac yn parhau i wasanaethu fel Curadur Anrhydeddus y Gymdeithas.

Bydd ei waith yn cael ei arddangos ochr yn ochr â detholiad o luniau dyfrlliw o gasgliad diploma mawreddog y Gymdeithas Dyfrlliw Frenhinol, sy'n dyddio'n ôl i pan sefydlwyd y Gymdeithas yn 1804.

Mae Peintiadau gan Paul Newland NEAC, RWS a gweithiau o gasgliad diploma’r Gymdeithas Dyfrlliw Frenhinol i’w gweld yn Oriel yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth rhwng 21 Mawrth a 6 Mai 2016.

Mae'r oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10:00 i 17:00. Bydd ar gau ar gyfer y Pasg o’r 25ain tan y 29ain o Fawrth. Mynediad am ddim.

AU9316