Prifysgol Aberystwyth yn serennu ar Countryfile

Y criw yn ystod ffilmio gydag Adam Henson

Y criw yn ystod ffilmio gydag Adam Henson

14 Mawrth 2016

Roedd Prifysgol Aberystwyth yn serennu ar Countryfile neithiwr. Roedd grŵp o fyfyrwyr sy'n astudio Amaethyddiaeth yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ymddangos ar y rhaglen boblogaidd ar BBC 1.

Roedd y rhifyn hwn yn canolbwyntio ar ffermwyr ifanc, ac fe dreuliodd y cyflwynydd Adam Henson a’r criw amser yn ac o gwmpas Aberystwyth, gan gynnwys Fferm Trawsgoed lle bu'r myfyrwyr yn helpu gyda'r ŵyna a’r godro.

O dan arweiniad Cennydd Owen Jones roedd y grŵp yn cynnwys myfyrwyr blwyddyn 1af, 2il a 3ydd, sy'n astudio amrywiaeth o raddau amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Cennydd yn fyfyriwr blwyddyn olaf Amaethyddiaeth a Gwyddorau Anifeiliaid ac yn dod o Pontsian, Ceredigion.

Daeth Caryl Hughes sydd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth ac enillydd cyntaf ysgoloriaeth Llyndy Isaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2013, hefyd i ymuno â’r myfyrwyr ar y diwrnod.

Bu’n gyfle i Caryl i ddal i fyny gydag Adam Henson gan i’w chyfnod hi yn Llyndy gael ei ffilmio ar gyfer rhifyn blaenorol o Countryfile. Mae'r ysgoloriaeth bellach wedi'i dyfarnu i ddau arall o raddedigion Amaethyddiaeth Aberystwyth.

Gallwch wylio’r rhaglen hon eto ar BBC iPlayer http://www.bbc.co.uk/programmes/b074bs69. Gallwch weld y rhaglen eto ar BBC2 ar ddydd Sul 20 Mawrth am 08:45.

Os hoffech chi wybod mwy am astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, cliciwch yma.