Agweddau o’r goruwch naturiol yn nhraddodiadau Cymreig a Gwyddelig yr oesoedd canol

Yr Athro Ruairi Ó hUiginn o Brifysgol Maynooth

Yr Athro Ruairi Ó hUiginn o Brifysgol Maynooth

11 Mawrth 2016

Bydd yr Athro Ruairi Ó hUiginn o Brifysgol Maynooth yn traddodi darlith gyhoeddus flynyddol yr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol (ILLCA) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mawrth 15 Mawrth, 2016 am 6 o'r gloch.

Bydd y ddarlith “Strange people, strange places: aspects of the supernatural in medieval Irish and Welsh tradition” a draddodir yn Saesneg yn tynnu ar arbenigedd helaeth yr Athro Ó hUiginn mewn llenyddiaeth Wyddeleg a Chymraeg Canol Oesoedd.

Graddiodd yr Athro Ó hUiginn o Goleg Prifysgol Dulyn lle bu'n astudio’r Gymraeg ochr yn ochr â Gwyddeleg Fodern a Chanoloesol, a Phrifysgol Queens Belfast lle cafodd ei ddoethuriaeth.

Mae’n gyfarwydd ag Aberystwyth ac wedi gwasanaethu’r Brifysgol fel arholwr allanol yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Mae’n dal Cadair Gwyddeleg Fodern Prifysgol Maynooth, lle mae hefyd yn Bennaeth ar yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd, ac yn aelod o Academi Frenhinol Iwerddon.

Mae'n Gadeirydd yr Academi Frenhinol Wyddelig, Foclóir Stairiúil na Nua-Ghaeilge (Geiriadur Hanesyddol Gwyddeleg Modern) a Chadeirydd An Coiste Logainmneacha (Comisiwn enwau lleoedd Gwyddeleg). Bydd yr Athro Ó hUiginn hefyd yn cwrdd â staff a myfyrwyr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn fwy anffurfiol i drafod ei ymchwil yn ystod ei ymweliad â'r brifysgol.

Dywedodd Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, "Mae'n bleser gallu croesawu'r Athro Ó hUiginn yn ôl i Brifysgol Aberystwyth i siarad ar bwnc a fydd o ddiddordeb arbennig i’r Brifysgol hon lle ceir traddodiad hir o Astudiaethau Celtaidd cymharol. Mae'n addo darparu cipolwg diddorol ar y berthynas rhwng Llenyddiaeth Iwerddon a Chymru, ac yn un amserol wrth i ni ddathlu Seachtain na Gaeilge (wythnos Wyddeleg) a Dydd Sant Padrig yn y Brifysgol. "

Cynhelir y digwyddiad yn Ystafell y Bwrdd yn y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais y Brifysgol, Aberystwyth ar ddydd Mawrth 15 Mawrth 2016. Cynhelir derbyniad diodydd gan ILLCA o 17.30 gyda'r ddarlith gyhoeddus yn dechrau am 18.00. Mae'r digwyddiad yn agored i bawb heb unrhyw angen i gadw lle ymlaen llaw.

AU8816