Ysglyfaethwr neu Warchodwr? Cyd-destun y ddadl ar awyrennau milwrol di-beilot

Chris Cole, syflaenydd Drone Wars UK.

Chris Cole, syflaenydd Drone Wars UK.

11 Mawrth 2016

Bydd Chris Cole, sylfaenydd Drone Wars UK yn trafod y defnydd o awyrennau arfog di-beilot mewn darlith Sefydliad Coffa David Davies ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mawrth 15 Mawrth.

Cynhelir y ddarlith,  Ysglyfaethwr neu Warchodwr? Cyd-destun y ddadl ar awyrennau milwrol di-beilot, ym mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 5 y prynhawn, ac mae croeso i bawb.

Mae defnyddio awyrennau arfog di-beilot yn cael ei normaleiddio'n gyflym wrth i fwyfwy o wledydd ymuno â chlwb defnyddwyr awyrennau di-beilot. Ond mae rhyfela o bell, 'di-berygl' fel y'i gelwir, yn codi pryderon cyfreithiol a moesegol difrifol ynghylch natur rhyfela cyfoes ac yn wir ynghylch yr hyn yr oeddem yn ei alw yn 'adeg heddwch'.

Yn y cyflwyniad hwn bydd Chris Cole yn ystyried y materion moesegol a chyfreithiol ynghylch y defnydd cynyddol ar awyrennau arfog di-beilot, y datblygiadau diweddar, a'r frwydr i osod cyd-destun y ddadl ar awyrennau di-beilot.

Corff anllywodraethol bach ym Mhrydain yw Drone Wars UK, â'i nod yw ymgymryd ag ymchwil, addysg ac ymgyrchu ar ddefnyddio Cerbydau Awyr Di-griw a mater ehangach rhyfela o bell. Erbyn hyn mae wedi'i gydnabod yn ffynhonnell gredadwy a dibynadwy o wybodaeth am awyrennau di-beilot a thechnoleg ddi-griw.

Chris yw cydawdur Convenient Killing: Armed Drones and the Playstation Mentality (2010), ac yn gydlynydd Rhwydwaith Ymgyrch Awyrennau Di-beilot ac mae'n annerch cynadleddau, cyfarfodydd cyhoeddus a'r cyfryngau yn rheolaidd ynghylch awyrennau di-beilot, lladd targedig, a rhyfela o bell.

Mae Chris yn un o gyn-Gyfarwyddwyr Cymdeithas y Cymod ac yn gyn-gydlynydd yr Ymgyrch yn Erbyn y Fasnach Arfau, a fe’i carcharwyd sawl gwaith am weithredu'n ddi-drais yn erbyn rhyfel a pharatoadau at ryfel.

AU10116