Ethol hanesydd yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol
Yr Athro Phillipp Schofield
09 Mawrth 2016
Mae’r Athro Phillipp Schofield, Athro Hanes yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei ethol yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae’r Athro Schofield, ymchwilydd o fri rhyngwladol ym maes economeg a hanes cymdeithasol yr oesoedd canol ac sydd â diddordeb arbennig mewn materion yn ymwneud â chredyd a dyled, yn un o bedwar deg dau o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw sydd wedi eu cydnabod gan yr Academi.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Schofield: "Rwy’n falch iawn ym mod wedi fy ethol yn Gymrawd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol.
“Fel hanesydd yr oesoedd canol, mae dwy brif ran i fy ngwaith i yn y gwyddorau cymdeithasol. Yn fy ngwaith fy hun, sy'n canolbwyntio’n bennaf ar astudiaeth o gymdeithas wledig yn yr oesoedd canol, rwy’n canolbwyntio'n benodol ar bynciau sy'n ehangach eu defnydd o fewn y gwyddorau cymdeithasol. Felly, mae themâu megis ymateb cymdeithasol ac economaidd i argyfwng a newid mewn poblogaeth yn ganolog i lawer o'r hyn yr wyf yn ei wneud, fel y mae diddordeb yn y defnydd o’r gyfraith mewn cymdeithasau yn y gorffennol. Yn ail, ond yn gydradd o ran pwysigrwydd i mi, mae fy ngwaith fel golygydd dau gyfnodolyn blaenllaw (Continuity and Change, 1999-2011; Economic History Review, 2011-presenol) a chyfres ryngwladol ar gymdeithas amaethyddol, wedi ei gysylltu’n agos iawn gydag agenda wyddoniaeth gymdeithasol o fewn yr astudiaeth o hanes.”
“Rwy'n gweld fy mhenodiad fel cymrawd yr Academi fel cyfle i feithrin gwaith gwyddoniaeth gymdeithasol, yn enwedig o fewn hanes - ac yn sicr nid lleiaf o fewn hanes yr oesoedd canol - ac i annog gweithgaredd sy'n cefnogi ymchwil ac addysgu yn y maes pwysig o'n dealltwriaeth hanesyddol.”
Astudiodd yr Athro Schofield am ei radd gyntaf mewn hanes hynafol a chanoloesol yn UCL yn 1986 cyn cwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen (Wadham) yn 1992.
Hyfforddodd hefyd fel cyfreithiwr a bu’n gweithio am gyfnod byr i gwmni cyfreithiol yn y Ddinas cyn dychwelyd i Rydychen yn 1993 lle bu'n dal swydd ymchwil yn Uned Wellcome ar Hanes Meddygaeth; symudodd i Brifysgol Caergrawnt a'r Grŵp Caergrawnt ar Hanes Poblogaeth a Strwythur Cymdeithasol yn 1996 cyn cymryd ei swydd yn Aberystwyth yn 1998.
Drwy Gymrodoriaeth Ymchwil Bwysig Leverhulme mae’n gweithio ar hyn o bryd ar Y Newyn Mawr yn Lloegr ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Mae hefyd yn cyfrannu at ymchwil a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) sy’n deillio o brosiectau ar ymgyfreitha ar lysoedd maenorol a’r defnydd o seliau yng Nghymru'r oesoedd canol; mae cyfrol ar gyfer Gwasg Prifysgol Manceinion, Peasants and Historians: the historiography of the medieval English peasantry, i’w chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
AU9216