‘Bywyd mewn Dŵr Croyw’

04 Mawrth 2016

Cynhelir darlith gyhoeddus yn tynnu sylw at hanes Kathleen Carpenter, ecolegydd dŵr croyw arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun 7 Mawrth, 2016 am 6.30pm yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol.

Traddodir y ddarlith gan Dr Catherine Duigan ac mae wed’i chyd-ysgrifennu gan Dr Warren Kovach yn seiliedig ar eu hymchwil diweddar i fywyd a gwaith Dr Carpenter.

"Gwnaeth Dr Kathleen Carpenter (1891-1970) nifer o ddarganfyddiadau gwyddonol pwysig yn ystod ei bywyd, ond mae ei stori yn dal heb ei hadrodd" esboniodd Dr Sarah Davies o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r ddarlith yn rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bydd yn anrhydeddu cyflawniadau gwyddonol Kathleen Carpenter ac yn ystyried yr heriau y byddai wedi’u hwynebu yn ystod ei gyrfa. Mae hi'n fodel rôl ysbrydoledig i wyddonwyr benywaidd ifanc heddiw."

Yn dilyn ymchwil arloesol MSc a PhD ar ddŵr croyw Dr Carpenter ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth ati i ysgrifennu’r gwerslyfr Saesneg cyntaf ar ecoleg dŵr croyw - Life in Inland Waters (1928). Mae ei gwaith ac ysgrifau yn ysbrydoli, gan gyfuno sylw at fanylder gwyddonol ac ymroddiad, gyda chariad amlwg iawn tuag at amgylcheddau dŵr croyw a'u biota.

Bu Dr Carpenter mewn swyddi ymchwil ac addysgu mewn tair Prifysgol yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys Coleg Radcliffe (yr Harvard benywaidd), cyn dychwelyd i gwblhau ei gyrfa ym Mhrifysgol Lerpwl. Gwnaeth nifer o gyfraniadau gwyddonol nodedig i faes ecoleg dŵr croyw, a oedd yn cynnwys disgrifio'r gwahanol barthau naturiol mewn afonydd, gan gydnabod addasiadau y biota i ddŵr rhedeg a phwysigrwydd tymheredd, a chwblhaodd un o'r astudiaethau manwl cyntaf i ddeiet eogiaid ifanc. Cofnododd Dr Carpenter bresenoldeb rhywogaethau creiriol rhewlifol ym Mhrydain a dangosodd effaith ddofn dŵr gwastraff mwyngloddio ar afonydd lleol yng Ngymru, ymchwil mae staff y Brifysgol yn parhau i adeiladu ar hyd y dydd hwn.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o raglen wythnos o weithgareddau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd lluniaeth ar gael yn y 'Felin Drafod’, Llawr B yn Adeilad Llandinam o 18.00 a bydd y ddarlith yn dechrau y A6 am 18.30. Mae'r digwyddiad am ddim ac ar agor i'r cyhoedd. Does dim angen bwcio ymlaen llaw.

Ynglŷn â'r siaradwr:
Ganwyd Dr Catherine Duigan yn Iwerddon a derbyniodd ei haddysg yng Ngholeg Prifysgol Dulyn lle y bu’n gweithio ar söoplancton yn llynnoedd Iwerddon ar gyfer ei thraethawd ymchwil PhD. Mae ei chefndir ymchwil rhyngwladol yn cynnwys gweithio yn UDA, Ffrainc ac Affrica. Bu’n ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Gymrawd Prifysgol Cymru yn ail-greu amgylcheddau hanesyddol mewn llynnoedd ym mynyddoedd yr Atlas yn Morocco. Gwasanaethodd ar Gyngor y Gymdeithas Fiolegol Dŵr Croyw gan ddarparu cyngor i Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Ar hyn o bryd mae Catherine yn arwain grŵp o arbenigwyr technegol sy’n ymchwilio i amgylcheddau dyfrol a thirol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mangor.  Fel darlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor mae hi’n cyfrannu at fodiwlau dysgu ar ecoleg dŵr croyw. Mae hi hefyd yn Llysgennad STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Ganwyd Dr Warren Kovach yn Cleveland, Ohio, UDA, ac fe’i addysgwyd yng Ngholeg Hiram, Ohio a Phrifysgol Indiana, Bloomington, lle derbyniodd PhD mewn paleobotaneg a phaleoecoleg. Ar ôl hynny bu’n Gymrawd Ôl-ddoethurol NATO ym Mhrifysgol Aberdeen ac yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn 1992 sefydlodd ‘Kovach Computing Services’. 

Mae Catherine Duigan a Warren Kovach wedi cyhoeddi astudiaethau gwyddonol ar y cyd, gan gynnwys y dosbarthiad presennol ar lynnoedd y DG a ddefnyddir mewn asesiadau cadwraethol. Mae Catherine wedi cynhyrchu nifer o bapurau ar amgylcheddau dŵr croyw yng Nghymru, gan gynnwys ysgrifennu a chyd-olygu’r llyfr The Rivers of Wales. Mae Warren hefyd yn awdur hanes lleol, ac mae wedi datblygu gwefannau a chyhoeddi llyfrau am hanes Ynys Môn a Phontydd Menai.

AU8516