Gwyddonwyr IBERS yn cychwyn prosiect ymchwil ar y panda mawr

Dr Russ Morphew a Cat Pye, myfyrwraig PhD IBERS

Dr Russ Morphew a Cat Pye, myfyrwraig PhD IBERS

01 Mawrth 2016

Mae gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am eu gwaith ymchwil ar anifeiliaid a phlanhigion amaethyddol.

Ond nawr mae tîm o ymchwilwyr ifanc yn yr Athrofa yn cychwyn ar brosiect newydd i asesu sut y mae parasit sy’n gallu effeithio ar bandas mawr yn ymateb i gyffuriau gwrth-barasitig.

Mae Dr Russ Morphew a’r myfyriwr PhD Cat Pye yn gweithio gydag Iain Valentine o Gymdeithas Sŵolegol Frenhinol yr Alban (RZSS), yr elusen gadwraethol sy’n berchen ar, ac yn rheoli Sŵ Caeredin, sydd â chysylltiadau â chanolfannau ymchwil Tsieineaidd, ar brosiect tair blynedd i ddarganfod sut y mae’r parasit yn ymateb i gyffuriau gwrth-barasitig ac, yn fwy penodol, ai ymwrthedd i gyffuriau sy’n achosi heintiadau cyson mewn poblogaethau pandas mawr sy’n byw mewn caethiwed.

Dywedodd Dr Morphew: “Rydym yn gobeithio y bydd ein casgliadau nid yn unig yn helpu i lywio strategaethau cadwraethol mewn caethiwed a ledled gwarchodfeydd pandas mawr Tsieina, ond y gallent hefyd arwain at well strategaethau rheoli i ymdrin â heintiadau yn y dyfodol.”

Dyfarnwyd cyllid ysgoloriaeth CASE i’r prosiect gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC). Grant hyfforddi cydweithredol yw hwn a fydd yn cynnig profiad hyfforddiant ymchwil heriol o’r radd flaenaf i Cat, gan ganiatau iddi (fel myfyrwraig raddedig o’r ansawdd uchaf mewn biowyddoniaeth) i wneud gwaith ymchwil, gan arwain at PhD, sydd o fudd iddi hi a’r sefydliadau partner sy’n rhan o’r prosiect.

Mae’r panda mawr - y symbol rhyngwladol am gadwraeth - yn un o’r rhywogaethau mwyaf poblogaidd yn y byd. Mewn ffordd debyg i gŵn a chathod domestig, gall pandas mawr gael eu heffeithio gan lyngyren barasitig a elwir yn Baylisascaris schroederi. Yn y gwyllt, gall y lyngyren fod yn angheuol os na chaiff ei drin, gan fod heintiad o’r parasit yn gallu achosi difrod i’r perfedd, gan gyrraedd yr ymennydd a’r llygaid yn y pen draw.

Dyweddodd Iain Valentine, Cyfarwyddwr Pandas Mawr RZSS: “Fel y rhan fwyaf o anifeiliaid - o gŵn a chathod i anifeiliaid fferm a sŵ - gall pandas mawr ddal llyngyr sy’n benodol i’w rhywogaeth. Felly, yn unol ag arferion hwsmonaeth sŵolegol da, mae pob anifail, gan gynnwys pandas mawr, yn cael eu trin am lyngyr yn rheolaidd. Serch hynny, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod llyngyr, dros amser, yn magu ymwrthedd i rai o’r cyffuriau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.”

“Mae bron pob panda mawr yn cael ei heintio â llyngyr trwy ei fam pan y mae’n genau, ac yna mae bron yn amhosib cael gwared arnynt yn barhaol. Pan fo anifeiliaid yn cael eu trin yn rheolaidd mae’r llyngyr yn mynd i gyflwr segur yn eu cyrff, ond pan mae’r benywod yn feichiog mae’r hormonau’n galluogi’r larfaod codennog i ddeor. Dyna pam bod bron pob ci a chath bach yn cael llyngyr a drosglwyddir drwy laeth eu mam.”

“Er bod Yang Guang, ein panda gwrywaidd, yn anghyffredin iawn gan nad yw erioed wedi dangos unrhyw arwyddion bod ganddo lyngyr na’u hwyau, mae Tian Tian wedi cael gwared ar dair llyngyren dros y tair blynedd diwethaf. Er mai dim ond nifer fach o lyngyr yw hyn, ac nad ydynt wedi cael unrhyw effaith ar iechyd Tian Tian, maent yn galluogi’r gwyddonwyr i ddefnyddio’i hymgarthion i geisio datblygu cyffuriau newydd a gwell i helpu pandas sy’n cael eu heffeithio’n fwy difrifol gan y cyflwr hwn.”

“Mae RZSS yn rhannu arbenigedd, cyllid a chysylltiadau i helpu gwyddonwyr yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth i gynnal yr ymchwil pwysig hwn. Mae ein cydweithwyr yn Tsieina yn teimlo’n arbennig o gyffrous ynglŷn â’r hyn y gellid ei gyflawni a’r potensial sydd yna i wella gofal pandas.”

Cymdeithas Sŵolegol Frenhinol yr Alban (RZSS)
Sefydlwyd Cymdeithas Sŵolegol Frenhinol yr Alban (elusen gofrestredig rhif SC004064) gan y gweledydd o gyfreithiwr Thomas Gillespie. Crëwyd y Gymdeithas yn 1909 ‘i hyrwyddo, hwyluso ac annog astudio sŵoleg a phynciau cyffelyb ac i feithrin a datblygu ymhlith y bobl ddiddordeb a gwybodaeth am fywyd anifeiliaid’. Mae’r Gymdeithas yn dal i fodoli i gysylltu pobl â byd natur a diogelu rhywogaethau rhag difodiant. Mae’n berchen ar, ac yn rhedeg RZSS Edinburgh Zoo ac RZSS Highland Wildlife Park. Am ragor o wybodaeth, gweler rzss.org.uk

AU8216