Y Torwyr Cod – Enigma, Parc Bletchley a Brwydr yr Iwerydd

Llun gan Bob Lord - German Enigma Machine, llwythwyd i Wikipedia Saesneg ar 16. Chwe. 2005 gan en:User:Matt Crypto, CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=258976

Llun gan Bob Lord - German Enigma Machine, llwythwyd i Wikipedia Saesneg ar 16. Chwe. 2005 gan en:User:Matt Crypto, CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=258976

29 Chwefror 2016

Bydd Dr Mark Baldwin, arbenigwr blaenllaw ar y Peiriant Cod Enigma a ddefnyddiwyd gan luoedd yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn siarad ym Mhrifysgol Aberystwyth ar nos Fercher 2 Mawrth, 2016.

Teitl ei gyflwyniad fydd "Y torwyr cod - Enigma, Parc Bletchley a Brwydr yr Iwerydd", a bydd yn trafod sut y gwnaeth tîm o ymchwilwyr ym Mharc Bletchley, gan adeiladu ar waith a ddechreuwyd gan wasanaethau cudd-wybodaeth gwlad Pwyl, lwyddo i ddatrys negeseuon cudd y Peiriant Enigma; dyfais amgryptio gludadwy hynod ddatblygedig a ddefnyddiwyd gan yr Almaenwyr a oedd o’r farn bod eu negeseuon cyfrinachol yn hollol ddiogel, a thrwy hynny olygu bod cyfrolau o wybodaeth gudd yn agored i’r Cynghreiriaid.

Roedd y wybodaeth a gafwyd o werth mawr i'r Cynghreiriaid ym mron pob agwedd o’r rhyfel, ond unman yn fwy felly nag ym Mrwydr yr Iwerydd, lle gwelwyd gwrthdaro ffyrnig a barodd bron i chwe blynedd a lle collwyd dros 60,000 o fywydau. Bydd Dr Baldwin yn defnyddio Brwydr yr Iwerydd er mwyn dangos pa mor bwysig oedd torri’r cod er mwyn ennill y rhyfel.

Wedi’r cyflwyniad, bydd y gynulleidfa yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o arddangosiad ymarferol o un o'r ychydig beiriannau Enigma sydd wedi goroesi. Dim ond tua 300 sydd wedi goroesi ledled y byd; o'r rhain, dim ond tua dwsin sydd mewn casgliadau cyhoeddus ym Mhrydain.

Gan fod y peiriannau hyn mor brin, bydd hwn yn gyfle anarferol i'r cyhoedd nid yn unig i weld, ond hefyd i ddefnyddio, peiriant Enigma gwreiddiol o U-Boat - y peiriant sy'n ymddangos yn y ffilm ddiweddar, 'The Imitation Game’, sydd wedi ailgynnau’r diddordeb ym Mharc Bletchley Park a’i breswylydd enwocaf, y mathemategydd Alan Turing.

Mae Dr Baldwin yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Prydain ar y Peiriant Enigma, ac mae wedi teithio’n helaeth ledled Prydain i annerch cynulleidfaoedd - proffesiynol, addysgol, masnachol a'r cyhoedd yn gyffredinol - ac mae hefyd wedi’i wahoddiad i siarad yn yr Almaen, Gwlad Belg a Gwlad Pwyl.

Trefnir y sgwrs gan gangen Canolbarth Cymru o’r BCS, Sefydliad Siartredig TG, ac Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.

Bydd y sgwrs yn dechrau am 6:30 yr hwyr nos Fercher, 2 Mawrth ym Mhrif Ddarlithfa Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth.  Cliciwch yma i gofrestru neu am ragor o wybodaeth. Bydd lluniaeth ar gael.

AU3116