Sut wnaeth Cymru ofalu am 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf?
Adeilad Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
16 Chwefror 2016
Mae Sefydliad Coffa David Davies yn Adran Gwleidyddiaeh Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn cynnal darlith gyhoeddus ar ymateb Cymru i Argyfwng y Ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar nos Fercher 17 Chwefror.
Bydd y ddarlith, sy’n cael ei chynnal ar y cyd â Cymru dros Heddwch, yn dechrau am 6 yr hwyr ym Mhrif Ddarlithfa’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Mae’r siaradwr gwadd, sef Christophe Declercq sy’n ddarlithydd yn UCL, wedi bod yn ymchwilio i hanes y ffoaduriaid Belgaidd ers dros ddegawd, ac mae'n swyddog cyswllt y DU ar gyfer prosiect a drefnir ar hyn o bryd gan Sefydliad Hanes Cymdeithasol Amsab, sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Ghent, Gwlad Belg.
Meddai: “Myfyrio ar y gorffennol i oleuo’r presennol yw pwrpas hanes. Bydd y broses hon o rannu gwybodaeth rhwng Gwlad Belg a Chymru yn gwella ein dealltwriaeth o hanes y Ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yng nghyd-destun argyfwng ffoaduriaid newydd sy'n dod i'r amlwg yn Ewrop, 100 mlynedd yn ddiweddarach. Roeddwn yn falch iawn i ymateb i'r cyfle hwn i rannu fy ngwaith ymchwil drwy'r prosiect Cymru dros Heddwch, yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.”
Daeth dros 4,500 o ffoaduriaid o Wlad Belg i Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan adael eto erbyn 1919 gydag ychydig iawn o olion ar wahân i waith celf, crefft a gwaith adeiladu sydd yn dal i gael eu gwerthfawrogi yng Nghymru heddiw. Mae'r rhain yn cynnwys y croglun wedi’i gerfio yn eglwys Llanwenog, y Pier Belgaidd ym Mhorthaethwy ac o’r arwyddocâd cenedlaethol mwyaf, cerfwaith cywrain ‘Cadair Ddu’ Eisteddfod Genedlaethol 1917, a ddyfarnwyd i’r bardd Hedd Wyn a fu farw ynghynt yn Passchendaele.
Eglurodd Declercq y cefndir: “Mae sylw ar breswyliad oddeutu chwarter miliwn o Felgiaid ym Mhrydain wedi ei esgeuluso yn rhy hir. Mae llu o resymau am hyn. Yn bwysicaf oll, daeth y Belgiaid i mewn mor ddiffwdan ag yr ymadawsant. Erbyn canol 1919, roedd bron pob un wedi dychwelyd i Wlad Belg. Pan oresgynnwyd Gwlad Belg gan yr Almaen ar 4 Awst 1914, cyhoeddodd Prydain ryfel ar yr Almaen. Yn ystod yr wythnosau canlynol, bu ymladd ffyrnig ar draws tiriogaeth Gwlad Belg gan greu symudiad torfol o ddinasyddion a ddaeth i ben gyda chwymp Ostend (15 Hydref) a Brwydr Gyntaf Ypres (19 Hydref - 22 Tachwedd). Yn wir, yn nechrau hydref 1914, ceisiodd bron un o bob tri Belgiad loches rhag y rhyfel.”
Ychwanegodd pennaeth y prosiect Cymru dros Heddwch, Craig Owen: “Un o elfennau cyffrous y prosiect Cymru dros Heddwch yw mapio effaith rhyfel a chasglu treftadaeth heddwch Cymru. Gyda chymorth gwirfoddolwyr ar draws Cymru, ac mewn partneriaeth gyda’r brifysgol a Chasgliad y Werin Cymru, mae diddordeb gennym mewn datguddio hanesion ac archifau lleol sy'n gysylltiedig â'r profiad Cymreig-Belgaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae cyfraniad Christophe Declercq gyda’r prosiect ymchwil Belgaidd hwn, yn darparu cyfle i estyn y bartneriaeth er mwyn rhannu darganfyddiadau yn ddigidol, i adlewyrchu ar faterion cyfredol sy'n gysylltiedig â derbyn ffoaduriaid, a chryfhau'r cysylltiadau Cymru-Gwlad Belg.
Arddangosfa a Darlithoedd Cofio dros Heddwch
Bydd y Ddarlith Gyhoeddus yn cyd-fynd ag Arddangosfa Cymru dros Heddwch sef "Cofio dros Heddwch" yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, tan 16 Ebrill. Mae rhagor o Ddarlithoedd Cyhoeddus wedi’u cynllunio ar ddyddiau Mercher, a bydd y ddarlith nesaf yn yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol ar Wrthwynebwyr Cydwybodol Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan Aled Eurig am 4:30pm ar yr 2il o Fawrth, 2016, canrif ar ôl i'r Ddeddf Gwasanaeth Milwrol ddod i rym.
Yn y Morlan, Aberystwyth am 2pm ar yr 16eg o Fawrth fydd y ddarlith olaf gan Rupert Gude ar yr ogwydd Prydeinig i Wrthwynebiad i’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac sy'n cael cefnogaeth gan ddeg o sefydliadau partner gan gynnwys prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a mudiadau megis yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Cwestiwn craidd y prosiect yw: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch? Prosiect treftadaeth yw Cymru dros Heddwch, sy’n gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru; mae’r prosiect hefyd yn edrych tua’r dyfodol o ran ysgogi trafodaethau sy’n ymwneud â materion heddwch er lles cenedlaethau’r dyfodol.
AU5716