Economïau lleol cryf yn ysgogi hunangyflogaeth

Yr Athro Andrew Henley

Yr Athro Andrew Henley

15 Chwefror 2016

Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod mwy o bobl wedi dewis hunangyflogaeth yn hytrach na chael eu gorfodi i fod yn hunangyflogedig yn ystod cwymp ariannol 2008-2013.

Cynhyrchwyd y papur The Post Crisis Growth in the Self-Employed: Volunteers or Reluctant Recruits? gan yr Athro Andrew Henley o Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth.

Defnyddiodd Henley bedair ton gyntaf yr astudiaeth Understanding Society er mwyn astudio camau i i hunangyflogaeth ers y Dirwasgiad Mawr. Mae ei ymchwil wedi herio'r gred boblogaidd fod y cwymp ariannol wedi gorfodi mwy o bobl i mewn i hunangyflogaeth oherwydd prinder swyddi sy'n talu’n dda.

Dywedodd Henley: "Mae'r Deyrnas Gyfunol wedi gweld cyfanswm ei gweithlu’n tyfu tua miliwn ers cwymp ariannol 2008-2014, gyda thwf pellach ers hynny. Ac mae hunan-gyflogaeth yn cyfrif am gymaint â dwy ran o dair o'r twf hwn. "

Mae'r ymchwil hwn yn ystyried a yw’r twf hwn mewn hunangyflogaeth yn adlewyrchiad o ddiffyg swyddi deniadol, cyflogedig o ansawdd da.

Canfyddiadau allweddol

• Mae pobl yn fwy tebygol o fynd yn hunangyflogedig os ydynt yn byw mewn ardal lle mae diweithdra’n is a chyflogau’n uwch. Mae'r casgliad hwn yn berthnasol i ddynion a menywod, on yn fwy felly ar gyfer menywod.

• Nid oes tystiolaeth gref i gefnogi'r syniad bod yr holl dwf diweddar mewn hunangyflogaeth wedi dod am fod pobl wedi bod yn methu dod o hyd i swyddi ar gyfraddau cyflog derbyniol lle maent yn byw.

Gwahaniaethau rhanbarthol o fewn y set ddata
Ychwanegodd Henley: “Mae twf hunangyflogaeth wedi bod gryfaf mewn ardaloedd, megis De-ddwyrain Lloegr, lle mae diweithdra yn is a chyflogau’n uwch. Gan fod rhai pobl yn gwneud yn dda yn y farchnad gyflogaeth gyflogedig, mae hyn yn creu cyfleoedd i eraill i sefydlu busnesau sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau.”

Gan ddefnyddio'r cwestiynau o'r holiadur oedolion ifanc yn Understanding Society, gwelodd Henley fod: "Pobl ifanc yn yr arolwg sy'n byw mewn ardaloedd o ddiweithdra uwch a chyflogau is yn fwy tebygol o ddweud y byddent yn hoffi bod yn hunangyflogedig yn y dyfodol. Yn baradocsaidd maent yn llai tebygol o allu cyflawni'r uchelgais hon.”

Argymhellion polisi
"Mae llywodraethau yn defnyddio amrywiaeth o bolisïau i annog hunan-gyflogaeth oherwydd y gred bod hyn yn gysylltiedig â lefelau uwch o entrepreneuriaeth. Fodd bynnag, mae’n bosibl nad polisïau megis y Lwfans Menter Newydd yw’r ffordd orau o hyrwyddo mentergarwch mewn rhanbarthau ac ardaloedd difreintiedig. Mae’r canlyniadau hyn yn awgrymu y gall polisïau o'r fath waethygu anghydraddoldebau rhanbarthol - canfyddiad sydd wedi ei nodi mewn ymchwil blaenorol.

"Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod lefelau is o hunan-gyflogaeth mewn rhanbarthau sydd ar ei hol hi’n economaidd yn adlewyrchu bod llai o gyfleoedd economaidd yn sgil lefelau cyffredinol is o ffyniant economaidd, ac yn ymwneud â gwahaniaethau mewn agweddau diwylliannol tuag at hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth. Mae'r canfyddiadau yn y papur hwn yn galw am bolisïau mentergarwch sydd wedi’u teilwra yn fwy gofalus tuag at ffactorau economaidd a chymdeithasol lleol, ac wedi’u datganoli i ranbarthau ac ardaloedd.”

Mae’r Athro Andrew Henley yn Gyfarwyddwr Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth ac yn Athro Entrepreneuriaeth a Datblygu Economaidd Rhanbarthol yn Ysgol Rheolaeth a Busnes y Brifysgol. Mae ef hefyd yn Gymrawd Ymchwil yn IZA, Berlin.

AU5416