Unmaking the Modern: The Work of Stanley Anderson
Stanley Anderson RA (1884-1966)
29 Ionawr 2016
Mae arddangosfa newydd o waith gan yr arlunydd ar gwneuthurwr printiau Stanley Anderson RA (1884-1966), dehonglwr allweddol y diwygiad ysgythru llinell ym Mhrydain, yn agor yn Ysgol Oriel Gelf Prifysgol Aberystwyth ar Ddydd Llun 1 Chwefror.
Curadwyd yr arddangosfa, sy’n cynnwys gwaith sydd bron yn gyfan gwbl o gasgliadau preifat, gan Dr Harry Heuser o'r Ysgol Gelf.
Yng ngwanwyn 2015, roedd Heuser a Phennaeth yr Ysgol Gelf, yr Athro Robert Meyrick, yn gyd-awduron ar y gyfrol Stanley Anderson RA. Prints: A Catalogue Raisonné ac yn gyd-guradwyr arddangosfa An Abiding Standard: The Prints of Stanley Anderson RA a gynhaliwyd yn Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain.
Cafodd yr arddangosfa ei chymeradwyo gan Alastair Smart o bapur y Telegraph a’i chynnwys yn ei restr fer o 'arddangosfeydd celf gorau o bob rhan o Lundain a gweddill y Deyrnas Gyfunol'.
Mae'r arddangosfa newydd yn cymryd golwg fanylach ar fyd-olwg Anderson.
MaeUnmaking the Modern: The Work of Stanley Anderson i’w gweld yn yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth o’r 1af o Chwefror tan yr 11eg o Fawrth 2016. Mae’r Oriel ar agor rhwng 10:00 a 17:00 o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Mynediad am ddim.
AU3216