Dathlu 90 mlynedd o deledu

Llun o John Logie Baird oddi wrth y BBC

Llun o John Logie Baird oddi wrth y BBC

25 Ionawr 2016

Ar 26ain Ionawr 1926, estynnwyd gwahoddiad gan y dyfeisydd Albanaidd John Logie Baird i aelodau’r Sefydliad Prydeinig i’w labordy yn Frith Street, Soho i weld arddangosiad o’r hyn a ddaeth ymhen amser i fod yn gyfrwng torfol mwya’r byd - teledu.

Wedi treulio mwy na thair blynedd yn gweithio ddydd a nos i berffeithio’i freuddwyd o ‘weld trwy’r diwifr’, fe lwyddodd Baird o’r diwedd i drosglwyddo delwedd dros bellter.

Mae erthygl o’r Times ar 28ain Ionawr 1926 yn adrodd ar y digwyddiad hanesyddol: ‘For the purposes of the demonstration the head of a ventriloquist’s doll was manipulated as the image to be transmitted, though the human face was also reproduced.

First on a receiver in the same room as the transmitter and then on a portable receiver in another room, the visitors were shown recognizable reception of the movements of the dummy head and of a person speaking.

The image as transmitted was faint and often blurred, but substantiated a claim that through the "Televisor" as Mr.Baird has named his apparatus, it is possible to transmit and reproduce instantly the details of movement, and such things as the play of expression on the face.’

90 mlynedd i’r diwrnod, mae Canolfan Hanes y Cyfryngau Prifysgol Aberystwyth a’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (Cymru) yn cynnal darlith i nodi’r achlysur.

Fe fydd Don McLean, arbenigwr teledu cynnar ac awdur Restoring Baird’s Image yn trafod arwyddocâd y blynyddoedd arbrofol cynnar hyn.

Mae Dr Jamie Medhurst, Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu a Chyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau wrth ei fodd fod y Brifysgol yn cynnal digwyddiad. ‘Ni ellir pwysleisio’n ddigonol bwysigrwydd y digwyddiad hwn 90 mlynedd yn ôl. Yma, am y tro cyntaf, ‘teledwyd’ delweddau, a thrwy hynny baratoi’r ffordd ar gyfer lansio gwasanaeth teledu cyhoeddus cynta’r byd ddegawd yn ddiweddarach pan ddechreuodd y BBC ddarlledu o Alexandra Palace yng nghogledd Llundain.”

Cynhelir y ddarlith yn Narlithfa A14 Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais am 6.00yh gyda derbyniad i ddilyn.

AU2516